Stryt Fawr, Wrecsam
Prif stryd yng nghanol Wrecsam sydd wedi bod yn lleoliad i nifer fawr o adeiladau hanesyddol yw'r Stryt Fawr. Yn yr ardal mae'r gair strŷt yn cael ei ddefnyddio yn lle stryd.
Math | stryd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Wrecsam |
Sir | Wrecsam |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Cyfesurynnau | 53.04511°N 2.992403°W |
Lleoliad golygu
Mae'r Stryt Fawr yn rhedeg yn gyfochrog ag Eglwys San Silyn, o'r groesffordd gyda Stryt yr Hôb (stryd fasnachol arall), Stryt yr Eglwys (sy'n rhedeg i giât mynwent yr eglwys) ac Allt y Dref, a oedd yn disgyn i afon Gwenfro, sydd erbyn heddiw wedi ei gorchuddio yng nghanol y ddinas.
Mae'r Stryt Fawr â chysylltiad hefyd â Rhes y Deml, lôn sy'n rhedeg wrth ochr mynwent yr eglwys, drwy arcêd siopa Arcêd Owrtyn.
Mae'r olygfa ar hyd y stryd yn cael ei dominyddu gan westy'r Wynnstay Arms, sy'n sefyll ym mhen pellaf y stryd, ar Stryt Yorke.
Hanes golygu
Mae'r Stryt Fawr yn rhan o galon ganoloesol y ddinas.[1] Parhaodd y stryd yn brif stryd fasnachol dros y canrifoedd, gyda stondinau marchnad, tafarnau a thai masnachwyr. Mae’r eiddo ar hyd Allt y Dref a’r Stryt Fawr wedi eu hadeiladu ar leiniau bwrdeisiwr cul hir, o bosibl o darddiad canoloesol.[2] Yn 1848 gosodwyd palmant ar y Stryt Fawr a Stryt yr Hôb ac adeiladwyd Marchnad y Cigyddion ar y Stryt Fawr yn yr un flwyddyn.[1]
Heddiw golygu
Mae'r Stryt Fawr wedi cadw nifer fawr o'i hadeiladau tri llawr yn bennaf o’r 18fed a’r 19eg ganrif,[2] yn enwedig ar ei hochr deheuol. Mae'r adeiladau mwyaf trawiadol yn cynnwys:
- Rhif 10: Marchnad y Cigyddion (1848)[3]
- Rhifau 14-15: adeilad y Banc Gogledd a Deheudir Cymru (1910/12) [4]
- Rhif 29: adeilad Provincial Welsh Insurance (1861) [5]
- Rhif 33: cyn Fanc Martins [6]
- Rhif 35: tafarndy'r Royal Oak [7]
- Rhif 43: cyn Fanc Cynilion Ymddiriedolwyr. [8]
Mae canolbwynt masnachol y ddinas wedi symud i ganolfan siopa Dôl yr Eryrod y tu ôl i'r Wynnstay Arms ac mae'r stryd wedi dod yn galon bywyd nos y ddinas, gyda nifer o fariau, bwytai a thafarndai. Eer enghraifft, mae adeiladau'r Banc Gogledd a Deheudir Cymru, Provincial Welsh Insurance a Banc Cynilion Ymddiriedolwyr yn cael eu defnyddio bellach fel tafarnau.
Cyfeiriadau golygu
- ↑ 1.0 1.1 Irish, Sandra. "Spatial patterns in the small town in the nineteenth century - a case study of Wrexham" (PDF). Prifysgol Aberystwyth. Cyrchwyd 14 June 2022.
- ↑ 2.0 2.1 "Cynllun Asesu a Rheoli Nodweddion Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam" (PDF). Wrexham.gov.uk. Cyrchwyd 16 June 2022.
- ↑ Hainsworth, John. "Butcher's Market, Wrexham". Thomas Penson.org. Cyrchwyd 14 June 2022.
- ↑ "North and South Wales Bank, 14-15 High Street, Wrexham". Coflein. Cyrchwyd 14 June 2022.
- ↑ "High Street 29, Wrexham". Coflein. Cyrchwyd 14 June 2022.
- ↑ "No 33 (Previously Listed as No 32) High Street, S Side, Clwyd, Offa, Wrexham". British Listed Buildings. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2022.
- ↑ "Royal Oak Public House, Formerly The Embassey, High Street, Wrexham". Coflein. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2022.
- ↑ "Trustee Savings Bank, Offa, Wrexham". British Listed Buildings. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2022.
Oriel golygu
-
Marchnad y Cigyddion - Stryt Fawr, ochr y gogledd
-
Stryt Fawr, Wrecsam - ochr y de (tuag at Stryt yr Eglwys)
-
Stryt Fawr, Wrecsam - ochr y de (tafarn y Royal Oak)
-
Rhif 29, Stryt Fawr - hen adeilad Provincial Welsh Insurance
-
Marchnad y Cigyddion - yr arwydd dros y fynedfa ar y Stryt Fawr
-
rhifau 14-15 – hen fanc Midland (wedi'i adeiladu tua 1910)
-
Tafarndy'r Golden Lion, Rhifau 12-13
-
Rhif 33, hen fanc Martins