Rhestr Detholion y Byd FIFA

Sustem safleoedd ar gyfer timau pêl-droed dynion ar lefel cenedlaethol yw Safleoedd y Byd FIFA. Fe drefnir safleoedd y timau sy'n aelodau o genhedloedd FIFA - corff rheoleiddio pêl-droed y Byd - yn seliedig ar ganlyniadau eu gemau, gyda'r timau mwyaf llwyddiannus yn cyrraedd y safleoedd uchaf. Cyflwynwyd y sustem ym mis Rhagfyr 1992, ac y mae saith tîm (Yr Almaen, Yr Ariannin, Brasil, Yr Eidal, Ffrainc, Yr Iseldiroedd a Sbaen) wedi treulio amser ar frîg y rhestr. O'r rhain, Brasil sydd wedi treulio'r amser hiraf yn y safle uchaf. Ar hyn o bryd, Yr Ariannin sydd yn y safle 1af yn Safleoedd y Byd FIFA[2]. Llwyddodd Cymru i gyrraedd y deg uchaf yn Safleoedd y Byd FIFA am y tro cyntaf pan gyrrhaeddasant y 10fed safle yn y Byd ar 9fed Gorffennaf 2015[3].

Y 20 Safle Uchaf ar 1 Hydref 2015[1]
Safle Tîm Pwyntiau
1  Yr Ariannin 1419
2  Yr Almaen 1401
3  Gwlad Belg 1387
4  Portiwgal 1235
5  Colombia 1228
6  Sbaen 1223
7  Brasil 1204
8  Cymru 1195
9  Chile 1177
10  Lloegr 1161
11  Awstria 1100
12  Y Swistir 1044
13  Rwmania 1042
14  Yr Iseldiroedd 1004
15  Y Weriniaeth Tsiec 983
16  Croatia 965
17  yr Eidal 962
18  Slofacia 936
19  Algeria 927
20  Wrwgwái 919
Rhestr Safleoedd Cyflawn ar Fifa.com Archifwyd 2014-10-30 yn y Peiriant Wayback

Ar 3 Medi 2015, fe gododd Cymru yn uwch na thîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr yn rhestr safleoedd FIFA am y tro cyntaf[4].

Ar 1 Hydref 2015, cododd Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru i'w safle uchaf erioed ar restr detholion y Byd pan gyrhaeddasant yr 8fed safle.[5][6]

Dull cyfrifo cyfredol

golygu

Ystyrir y ffactorau canlynol tra'n cyfrifo pwyntiau pob tîm a ddefnyddir i briodoli safle'r timau[7].:

  • Canlyniad gêm
  • Statws gêm
  • Cryfder gwrthwynebwyr
  • Cryfder rhanbarthol

Mae sgor tîm yn cael ei gyfrifo o gyfartaledd y pwyntiau a enillwyd dros gyfnod o flwyddyn calendr, gyda chanlyniadau gemau dros y bedair mlynedd flaenorol yn cael eu hystyried, a'r pwyslais mwyaf yn cael ei roi ar y canlyniadau mwyaf diweddar.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "The FIFA/Coca-Cola World Ranking - Ranking Table". FIFA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-14. Cyrchwyd 3 Medi 2015.
  2. "Safleoedd FIFA". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-26. Cyrchwyd 2015-07-04.
  3. Gwefan BBC Cymru
  4. Gwefan Golwg360
  5. Cymdeithas Pêl-Droed Cymru[dolen farw]
  6. BBC Cymru
  7. [ http://www.fifa.com/fifa-world-ranking/procedure/men.html/ Archifwyd 2015-07-13 yn y Peiriant Wayback Gwefan FIFA]