Côd post
Cyfuniad o lythrennau a rhifau a ddefnyddir mewn sawl gwlad i ddynodi cyfeiriad post, gan amlaf trwy ei roi ar ddiwedd cyfeiriad unigol ar amlen, yw côd post (côd zip yn yr Unol Daleithiau). Mae ei fanyldeb yn amrywio. Mewn rhai gwledydd, fel Tiwnisia er enghraifft, dim ond dinas, tref neu bentref a ddynodir gan gôd post, ond mewn gwledydd eraill, fel Cymru er enghraifft, mae'r côd yn fwy manwl ac yn dynodi stryd neu ardal.
Codau post yn y DU
golyguYng Nghymru a gwledydd eraill y DU, mae codau post yn cynnwys tair elfen. Yn y gyntaf ceir llythyren neu ddwy i ddynodi'r canolfan sortio ar gyfer yr ardal, yn ail ceir rhif sy'n dynodi'r ddinas, tref neu bentref, ac yn drydydd, ar ôl bwlch, ceir cyfuniad o rif(au) a llythrennau sy'n dynodi ardal drefol neu stryd a.y.y.b. SY23 3HH, er enghraifft, yw côd post Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gyda'r SY yn sefyll am Amwythig (Shrewsbury=SY) a 23 yn dynodi Aberystwyth.