Rhestr o systemau'r corff dynol

rhestr ar brosiect Wikimedia

Dyma restr o systemau'r corff dynol[1]:

  1. System cylchrediad y gwaed
    1. Yn cylchredeg gwaed o gwmpas y corff trwy'r galon, rhydwelïau a gwythiennau, gan gyflwyno ocsigen a maethynnau i organau a chelloedd a chludo eu cynhyrchion gwastraff i ffwrdd.
  2. System dreulio:
    1. Prosesau mecanyddol a chemegol sy'n darparu maetholion drwy'r geg, oesoffagws, stumog a choluddion.
    2. Dileu gwastraff oddi wrth y corff.
  3. System endocrin:
    1. Yn darparu cyfathrebu cemegol o fewn y corff gan ddefnyddio hormonau.
  4. System bilynnol / System ecsocrin:
    1. Croen, gwallt, ewinedd, chwys a chwarennau ecsocrineidd eraill.
  5. System lymffatig / System imiwnedd:
    1. Y system sy'n cynnwys rhwydwaith o bibellau lymff.
    2. Mae'n amddiffyn y corff yn erbyn firysau a phathogenau a allai beryglu'r corff.
  6. System gyhyrol
    1. Yn galluogi'r corff i symud gan ddefnyddio cyhyrau.
  7. System nerfol:
    1. Casglu a phrosesu gwybodaeth o'r synhwyrau trwy nerfau a'r ymennydd ac yn dweud wrth y cyhyrau i gontractio achosi gweithredoedd corfforol.
  8. System arennol / System wrinol:
    1. Y system lle mae'r arennau'n hidlo gwaed.
  9. System atgenhedlu:
    1. Yr organau rhyw angenrheidiol ar gyfer cynhyrchu plant.
  10. System resbiradu
    1. Yr ysgyfaint a'r trachea sy'n dwyn awyr i'r corff.
  11. System ysgerbydol
    1. Esgyrn sy'n cynnal ac yn amddiffyn y corff a'i organau.

Cyfeiriadau

golygu