System dreulio
Mae bodau dynol ac anifeiliaid yn cael ei hegni o'r bwyd y maent yn ei bwyta. Ar ôl llyncu bwyd mae'n teithio i'r coludd, sef tiwb sy'n mynd drwy'r corff. I fod o werth mae angen i'r bwyd allan o'r coludd ac i mewn i'r gwaed sy'n gallu cael ei gludo i unrhyw ran o'r corff.
Rhaid i'r rhan fwyaf o'r bwyd rydym yn ei fwyta newid mewn dwy ffordd cyn cael ei rhyddhau o'r coludd ac i mewn i'r gwaed.
Rhaid i'r moleciwlau mawr sydd yn y bwyd cael ei dorri i mewn i foleciwlau llai fel ei bod yn gallu cael ei amsugno drwy fur y coludd.
Rhaid troi moleciwlau mawr anhydawdd yn foleciwlau llai hydawdd gan ddefnyddio dŵr fel y gallent hydoddi yn y gwaed a chael ei cludo o gwmpas.[1]
Pa fwydydd sydd angen ei threulio?
Brasterau - Bydd hyn yn torri lawr i Glyserol ac asidau brasterog.
Protein - Bydd rhain yn cael ei torri i lawr i asidau amino.
Carbohydradau- bydd y startsh yn torri i lawr i glwcos.

1: Y geg 2: Taflod 3: Gwacter 4: Tafod 5: Dannedd 6: Chwarennau poer 7: Is-fantol 8: Is-dafod 9: Parotid 10: Isfantol 11: Oesoffagws (y llwnc) 12: Iau (Afu) 13: Coden fustl 14: Dwythell y bustl 15: Stumog | 16: Pancreas 17: Pibell bancreatig 18: Coluddyn bach 19: Dwodenwm 20: Coluddyn gwag 21: Ilëwm 22: Coluddyn crog 23: Coluddyn mawr 24: Colon traws 25: Colon esgynnol 26: Caecwm 27: Colon disgynnol 28: Colon crwm 29: Rectwm 30: Anws |
Organau'r system dreulio:
Chwith: diagram manwl; Dde: diagram syml.
- Ceg a thafod
- Ffaryncs
- Oesoffagws
- Stumog
- Cefndedyn (Pancreas)
- Coden fustl
- Afu (Iau)
- Dwodenwm
- Coluddyn gwag (Jejenum)
- Ilëwm
- Coluddyn mawr
- Caecwm (Coluddyn dall)
- Rectwm
- Anws (pen ôl)
Gweler hefydGolygu
Bioleg | Anatomeg | System dreulio |
Ceg | Ffaryncs | Oesoffagws | Stumog | Cefndedyn | Coden fustl | Afu | Dwodenwm | Coluddyn gwag | Ilëwm | Coluddyn mawr | Caecwm | Rectwm | Anws |
- ↑ TGAU Bioleg. Hodder Education. 2019. tt. 28–29. ISBN 978-1-510-40031-3.
|first=
missing|last=
(help)