Rhian

sant gwrywaidd o'r 13g

Sant o'r 13g o Gymru oedd Rhian (Llydaweg: Riana) a roddodd ei enw i Lanrhian, Dyfed. Ceir carreg o'r enw 'Carreg Rhian' ar bwys y pentref. Dethlir ei ddydd mabsant ar 8 Mawrth.

Rhian
GanwydTeyrnas Dyfed Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcrefyddwr Edit this on Wikidata
Carreg Rhian, Llanrhian.

Ceir hefyd sant o'r un enw a sillefir weithiau hefyd fel Rian a chysylltiadau gyda Enez Vriad (enw Llydaweg, sylwer ar y 'ri' yng nghanol yr enw; Ffrangeg: l'île de Bréhat), Llydaw a brenin o'r Iwerddon, sef y Brenin Ri ac o bosib Ryan, sydd eto'n enw Celtaidd. 'Brenin bychan' yw'r ystyr, mae'n debyg, ac ystyr 'rhian' yn Gymraeg yw 'merch'.[1] Ceir cymuned ac eglwys ar Ynys Bréhat yn Llydaw o'r enw Sant-Rien (Ffrangeg: Sant Adrien); yn 1181 Sanctus Rihen ('Sant Rion') oedd enw'r lle; 'Sant Drien' erbyn 1393 a Sant Adrien bellach.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. grandterrier.net; Archifwyd 2014-08-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Ffrangeg; adalwyd Mawrth 2016