Rhif positif
Dywedir bod rhif real yn rhif positif os yw ei werth (nid ei faint) yn fwy na sero, ac yn negatif os yw'n llai na sero.
Dynodir yr rhif positif gan yr arwydd +; i ddangos nad (ee 6) yn rhif negatif, gellir rhoi'r arwydd o flaen rhif ee +6 (chwech). Rhoddir minws o flaen rhif negatif ee −6. Ni ystyrir bod Sero ei hun yn cael arwydd ac nid yw arwyddion yn cael eu diffinio ar gyfer rhifau cymhlyg, er bod y gall hyn ddigwydd ar adegau prin. Pan na roddir arwydd + neu −, y dehongliad diofyn (default) yw bod y rhif yn bositif.
Mewn geometreg a ffiseg ddadansoddol, mae'n gyffredin labelu rhai cyfeiriadau fel rhai positif neu negatif. Fel enghraifft sylfaenol, mae'r linell rif, fel arfer, yn cael ei dynnu gyda rhifau positif i'r dde, a rhifau negatif i'r chwith:
Terminoleg
golyguDefnyddir y gair positif yn hytrach na 'posydd' gan Eiriadur Termau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ colegcymraeg.ac.uk; Archifwyd 2017-07-29 yn y Peiriant Wayback adalwyd 20 Awst 2018.