Rhiwallon ap Cynfyn

brenin Powys

Roedd Rhiwallon ap Cynfyn (1025? - 1070) yn frenin Gwynedd a Powys ar y cyd gyda'r frawd Bleddyn.

Rhiwallon ap Cynfyn
Ganwyd1025 Edit this on Wikidata
Bu farw1070 Edit this on Wikidata
o lladdwyd mewn brwydr Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
Swyddbrenin Edit this on Wikidata
TadCynfyn ap Gwerstan Edit this on Wikidata
MamAngharad ferch Meredydd Edit this on Wikidata
PlantGwladus ferch Rhiwallon ap Cynfyn, Jonet ferch Rhiwallon ap Cynfyn Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Roedd Rhiwallon yn fab i Cynfyn ap Gwerstan, brenin Powys. Yn 1063 wedi i Gruffydd ap Llywelyn golli brwydr i Harold Godwinson a chael ei ladd gan ei wyr ei hun, derbyniodd Rhiwallon a Bleddyn deyrnas Gwynedd gan Harold.

Dair blynedd yn ddiweddarach lladdwyd Harold gan y Normaniaid ym Mrwydr Hastings, a chyn hir yr oeddynt ar ororau Cymru. Ymunodd Rhiwallon a Bleddyn a gwyr Mersia i ymosod ar y Normaniaid.

Yn 1070 ceisiodd dau fab Gruffydd ap Llywelyn gymeryd y deyrnas oddi ar y ddau frawd. Ym mrwydr Mechain y flwyddyn honno lladdwyd dau fab Gruffydd, ond lladdwyd Rhiwallon hefyd, gan adael Bleddyn i deyrnasu ei hun ar Wynedd a Phowys.

Cyfeiriadau golygu

O'i flaen :
Gruffudd ap Llywelyn
Brenhinoedd Gwynedd Olynydd :
Bleddyn ap Cynfyn
Brenhinoedd Powys