Bleddyn ap Cynfyn
Roedd Bleddyn ap Cynfyn (m. 1075) yn frenin Gwynedd a Powys.
Bleddyn ap Cynfyn | |
---|---|
Ganwyd | 11 g |
Bu farw | 1075 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | teyrn, pendefig |
Swydd | Teyrnas Powys, Teyrnas Gwynedd, tywysog |
Tad | Cynfyn ap Gwerstan |
Mam | Angharad ferch Meredydd |
Priod | Clywch Am Bowd |
Plant | Cadwgan ap Bleddyn, Madog ap Bleddyn, Rhiryd ap Bleddyn, Iorwerth ap Bleddyn, Maredudd ap Bleddyn, Gwenllian ferch Bleddyn ap Cynfyn, Hunydd ferch Bleddyn ap Cynfyn, Efa ap Bleddyn ap Cynfyn, Madog Goch ap Bleddyn ap Cynfyn o Fawddwy |
Bywgraffiad
golyguRoedd Bleddyn yn fab i Cynfyn ap Gwerstan o hil brenhinol Powys. Pan laddwyd Gruffydd ap Llywelyn gan ei wyr ei hun ar ôl ei orchfygu gan Harold Godwinson yn 1063, rhannwyd ei deyrnas rhwng nifer o dywysogion. Talodd Bleddyn a'i frawd Rhiwallon wrogaeth i Harold a derbyniasant deyrnasoedd Gwynedd a Phowys. Yn 1067 ymunodd Bleddyn a Rhiwallon ag Eadric o Fercia i ymosod ar y Normaniaid yn Henffordd, yna yn 1068 gwnaethant gynghrair a'r Iarll Edwin o Mersia a'r Iarll Morcar o Northumbria i ymosod ar y Normaniaid eto.
Ceisiodd dau fab Gruffydd ap Llywelyn gipio'r deyrnas o ddwylo Bleddyn, ond gallodd eu gorchfygu ym mrwydr Mechain yn 1070. Lladdwyd un o'r ddau yn y frwydr a bu farw'r llall o oerni ar ôl y frwydr. Lladdwyd Rhiwallon, brawd Bleddyn, yn y frwydr hon hefyd, ac o hynny ymlaen bu Bleddyn yn teyrnasu ar Wynedd a Phowys ei hun tan ei farwolaeth. Fe'i lladdwyd yn 1075 gan Rhys ab Owain ag uchelwyr Ystrad Tywi, llofruddiaeth a barodd fraw trwy Gymru. Yn ôl Brut y Tywysogion yr oedd Bleddyn yn frenin daionus ac yn gyfrifol am ddiweddaru cyfraith Hywel Dda.
O'i flaen : Gruffydd ap Llywelyn |
Brenhinoedd Gwynedd | Olynydd : Trahaearn ap Caradog |
Brenhinoedd Powys | Olynydd : Maredudd ap Bleddyn (fel Tywysog Powys) |