Rhiwmatoleg
Is-arbenigedd o feddygaeth mewnol a pediatrics yw rhiwmatoleg (Groeg: rheuma, "afon"), sy'n ymroddedig i ddiagnosis a therapi clefydau rhiwmatig. Mae rhiwmatolegwyr yn ymdrin â phroblemau clinigol sy'n ymwneud â chymalau, meinweoedd meddal a chyflyrau perthynol y meinweoedd cyswllt. Daw'r term rhiwmatoleg o'r gair Groeg rheuma, sy'n golygu "hynny sy'n llifo fel afon neu nant" ac mae'r ôl-ddodiad -oleg yn dod o'r gair Groeg -ology, yn golygu "yr astudiaeth o."
Enghraifft o'r canlynol | arbenigedd meddygol, disgyblaeth academaidd |
---|---|
Math | meddygaeth, gwyddorau clinigol |
Rhan o | meddygaeth fewnol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ystyr 'cryd' yw 'cryndod' neu 'dwymyn', felly 'cryndod yn y cymalau' yw ystyr yr hen air Cymraeg 'cryd y cymalau' (neu 'gwynegon'), gan fod y clefyd hwn yn achosi cryndod enbyd a phoenus yn y cymalau. 'Cricmala' a ddywedir ar lafar.