Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf
Ysgol uwchradd gyfun Gymraeg yn ardal Ystum Taf, Caerdydd yw Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Hon oedd yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf i gael ei sefydlu yng Nghaerdydd.
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf | |
---|---|
![]() | |
Arwyddair | Coron Gwlad Ei Mamiaith |
Sefydlwyd | 1978 |
Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Cymraeg |
Pennaeth | Mr. Matthew Evans |
Lleoliad | Heol y Bont, Ystum Taf, Caerdydd, Cymru, CF14 2JL |
AALl | Cyngor Dinas Caerdydd |
Disgyblion | 1,132 (2017) |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11–18 |
Lliwiau | Glas golau a thywyll |
Gwefan | www.glantaf.cymru |
HanesGolygu
Sefydlwyd yr ysgol yn benllanw i flynyddoedd o ymgyrchu dros addysg Gymraeg. Agorodd ei drysau i'r disgyblion cyntaf (98 ohonynt) ym Medi 1978. Dewiswyd safle ysgol Saesneg ei chyfrwng, Glantaff, fel y lleoliad gan fod niferoedd yr ysgol Saesneg yn cwympo'n naturiol oherwydd rhesymau demograffig ac apêl ysgolion uwchradd eraill yn yr ardal. Prifathro cyntaf yr ysgol oedd Malcolm Thomas. Bu Mr Huw Thomas, Mrs Rhiannon Mary Lloyd a Mr Alun Davies yn brifathrawon yn yr ysgol. Y Pennaeth presennol yw Mr. Matthew Evans a ymunodd â’r ysgol ym mis Medi 2020 o Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur.[1]
Erbyn y 1998 roedd cymaint o alw am addysg Gymraeg yng Nghaerdydd fel yr agorwyd ysgol arall, Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr. Sefydlwyd trydedd ysgol uwchradd Gymraeg Caerdydd, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, ym mis Medi 2012, a gartrefwyd ar ran o safle Glantaf dros dro, cyn symud i hen adeiladau Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant ym Mhenylan ym mis Medi 2013.[2]
Arwyddair yr ysgol yw Coron gwlad ei mamiaith.
DalgylchGolygu
Dyma ysgolion cynradd dalgylch yr ysgol:
Cyn-ddisgyblion o nodGolygu
- Gweler y categori Categori:Pobl addysgwyd yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf
- Rhys ab Owen - gwleidydd Plaid Cymru
- Huw Bunford - aelod o'r Super Furry Animals
- Ioan Gruffudd - actor
- Branwen Gwyn - cyflwynydd teledu
- Ffion Hague - darlledwraig, awdur a chyn-was sifil
- Gethin Jones - cyflwynydd teledu
- Eluned Morgan - gwleidydd Llafur
- Llwyd Owen - nofelydd
- Matthew Pritchard - cyflwynydd teledu
- Guto Pryce - aelod o'r Super Furry Animals
- Jamie Roberts - chwaraewr rygbi
- Jamie Robinson - chwaraewr rygbi
- Nicky Robinson - chwaraewr rygbi
- Matthew Rhys - actor
- Huw Stephens - DJ radio
CyfeiriadauGolygu
- ↑ School Details: Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Cyngor Caerdydd.
- ↑ Gwybodaeth ychwanegol o ran trefniadau derbyn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern. Cyngor Caerdydd (28 Hydref 2011). Adalwyd ar 22 Mehefin 2012.