Rhosier Smyth

offeiriad Pabyddol a chyfieithydd yn Gymraeg

Offeiriad Pabyddol, Gwrthddiwygiwr blaengar, a chyfieithydd oedd Rhosier Smyth neu Roger Smyth (1541 - 1625), a aned yn Llanelwy yn yr hen Sir Ddinbych.

Rhosier Smyth
Ganwyd1541 Edit this on Wikidata
Llanelwy Edit this on Wikidata
Bu farw1625 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyfieithydd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Roedd yn un o'r Gwrthddiwygwyr Cymreig a geisiai adfer yr hen Ffydd yng Nghymru. Roedd yn wladgarwr Cymreig a gredai nad oedd gan Iago I o Loegr hawl i reoli Lloegr ond gwrthodai yn ogystal hawl unrhyw frenin estron i reoli Cymru. Dymunai weld Cymru dan werin-lywodraeth ymreolaethol, fel taleithiau'r Eidal, ond gan dderbyn awdurdod y Pab ar faterion crefyddol.[1]

Ffoes i'r cyfandir i ddianc yr erledigaeth ar Gatholigion yn 1573 pan ymaelododd yn y Coleg Seisnig yn Douai, Ffrainc. Erbyn 1579 roedd Smyth yn Rhufain. Roedd yn un o'r myfyrwyr cyntaf i ennill lle yn yr Ysbyty Seisnig yn Rhufain ond bu'n rhaid iddo adael wedi'r ddadl ffyrnig a fu rhwng y Cymry a'r Saeson. Mae'n debyg iddo deithio i Rouen yng nghwmni Gruffydd Robert a cheir tystiolaeth iddo gopïo gwaith Gruffydd Robert, Y Drych Cristianogawl‎, a'i gludo'n ddirgel o Ffrainc i Gymru.[2]

Ar ôl marwolaeth Rhosier Smyth ym Mharis ym 1625 daeth cyfnod y reciwsantiaid Cymreig i ben.

Gwaith llenyddol

golygu

Y gwaith pwysicaf a gyhoeddwyd ganddo oedd Gorsedd y Byd (1615), a gyhoeddwyd ganddo ym Mharis ar ôl iddo symud yno yn 1596. Cyhoeddodd ddau lyfr arall yno yn ogystal, sef Crynnodeb o addysc Cristnogawl (1609), crynodeb o'r Summa Doctrinae Christianae gan Petrus Canisius, a chyfieithiad llawn o'r gwaith hwnnw (1611).[2]

Llyfryddiaeth

golygu
  • Thomas Parry (gol.), Theater du Mond sef ivv. Gorsedd y Byd (Caerdydd, 1930). Gyda rhagymadrodd hir ar fywyd yr awdur.
  • W. J. Gruffydd, Llenyddiaeth Cymru[:] Rhyddiaith o 1540 i 1660 (Wrecsam, 1926). Tud. 149-51.

Cyfeiriadau

golygu
  1. W. J. Gruffydd, Llenyddiaeth Cymru[:] Rhyddiaith o 1540 i 1660 (Wrecsam, 1926). Tud. 149-51.
  2. 2.0 2.1 Thomas Parry (gol.), Theater du Mond sef ivv. Gorsedd y Byd (Caerdydd, 1930). Rhagymadrodd.