Tref a chymuned yng ngogledd Ffrainc yw Douai (Iseldireg: Dowaai). Saif yn département Nord, ar lannau afon Scarpe, tua 25 milltir (40 km) o Lille a 16 milltir (25 km) o Arras, Roedd poblogaeth yr ardal drefol (aire urbaine), yn cynnwys Lens, yn 552,682 yn 1999.

Douai
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth39,648 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethFrédéric Chéreau Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Harrow, Recklinghausen, Kenosha, Dédougou, Puławy, Seraing Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sirarrondissement of Douai Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Arwynebedd16.88 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr38 metr, 16 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaRoost-Warendin, Sin-le-Noble, Waziers, Anhiers, Cuincy, Flers-en-Escrebieux, Lallaing, Lambres-lez-Douai, Lauwin-Planque, Râches Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.3708°N 3.0792°E Edit this on Wikidata
Cod post59500 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Douai Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethFrédéric Chéreau Edit this on Wikidata
Map
Clochdy Douai, Jean-Baptiste Camille Corot, 1871.

Mae'r clochdy, a adeiladwyd gyntaf yn 1380, yn enwog. Pan oedd Douai yn rhan o'r Iseldiroedd Sbaenig, sefydlwyd Prifysgol Douai, a ddaeth yn bwysig ar gyfer addysgu Catholigion o Gymru a Lloegr yn y Coleg Seisnig; roedd hefyd Goleg Albanaidd a Choleg Gwyddelig. Sefydlwyd priordy Benedictaidd Sant Gregori Fawr gan Sant John Roberts yn 1605.

Ymysg y Catholigion Cymreig a addysgwyd yn Douai, roedd Rhosier Smyth, Robert Gwyn a Philip Powell.