Rhwd
Haearn ocsid yw rhwd a gynhyrchir gan adwaith rhydocs rhwng haearn ac ocsigen. Ymdoddir carbon deuocsid yn yr atmosffer mewn dŵr gan ffurfio hydoddiant asid sydd yn adweithio â'r haearn, neu aloi haearn megis dur, i greu haearn (II) ocsid. Yna, caiff ei ocsideiddio gan ffurfio haearn (III) ocsid, sydd yn gadael yr haen ruddgoch a elwir rhwd. Gelwir y broses yn rhydu, sydd yn fath o gyrydiad. Gellir atal rhwd drwy galfaneiddio'r metel.