Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol

Mae'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn rwydwaith o lwybrau seiclo yn y Deyrnas Unedig.

Crëwyd y Rhydwaith Beicio Cenedlaethol gan yr elusen "Sustrans" (Sustainable Transport), a derbyniodd grant o £42.5 miliwn wrth y Loteri Genedlaethol. Yn 2005, defnyddiwyd y rhwydwaith ar gyfer dros 230 miliwn o deithiau.

Mae nifer o'r llwybrau yn ceisio osgoi cysylltiad gyda cherbydau modur, er fod 70% o'r llwybrau ar heolydd. Weithiau, defnyddia'r Rhwydwaith Feicio Cenedlaethol llwybrau cerdded, rheilffyrdd na sydd yn cael eu defnyddio, heolydd bychain, llwybrau camlesi neu heolydd lle mae camau wedi'u cymryd i arafu'r traffig.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am gludiant. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.