Seiclo
(Ailgyfeiriad o Beicio)
Modd o gludiant, difyrrwch a mabolgamp yw seiclo (hefyd beicio neu marchogaeth beic), sef y weithred o reidio beic, beic-un-olwyn, treisicl, beic-pedair-olwyn neu gerbyd tebyg arall a bwerir gan berson.
Mae nifer o chwaraewyr llwyddiannus ym myd seiclo Cymreig. Un prawf o hyn ydy'r ariannu sylweddol sydd wedi mynd i mewn i seiclo dros y blynyddoedd diweddar yng Nghymru ac ym Mhrydain fel cyfan; yn nodweddiadol, adeiladu Velodrome yng Nghasnewydd.
Ceir sawl math o seiclo gan gynnwys: seiclo trac, seiclo mynydd a seiclo hamddenol neu i'r gwaith. Ar ddiwedd yr 20g roedd gan yr heddlu a phosmyn feiciau. Datblygwyd rhai beiciau er mwyn eu plygu a'u cario ar dren neu fws.
Traciau seiclo yng Nghymru
golygu- Canolfan Maendy, Caerdydd - cynhaliwyd Gemau'r Gymanwlad yma yn 1993.
- Coed Llandegla, Sir Ddinbych
- Llwybr Coediog Cwm Carn, Glyn Ebwy
- Bikepark Wales, Coetir Gethin, Merthyr Tudful
Seiclwr enwog
golygu- Dale Appleby
- Martyn Ashton
- Léon Georget
- Rebecca James
- Angharad Mason
- Jimmy Michael (1877 - 1904)
- Geraint Thomas
Gweler hefyd
golyguDolenni allanol
golygu- (Saesneg) Beicio Cymru - Gwefan Swyddogol Archifwyd 2009-07-03 yn y Peiriant Wayback