Rhwydwaith Perfformwyr Ifanc
Sefydlwyd Rhwydwaith Perfformwyr Ifanc yn 2015 i feithrin ac annog bandiau ifanc Ynys Môn i fod yn hunan gynaladwy drwy trefnu gigs a digwyddiadau eu hunain. Mae'r fenter hon yn rhan o prosiect Bocsŵn.
Nod y prosiect
golyguMae'r Rhwydwaith yn rhoi cefnogaeth a chymorth i bobl ifanc i greu band, neu i feithrin ac annog bandiau sydd wedi cael eu sefydlu yn barod. y nôd yw rhoi cefnogaeth a chymorth i drefnu a chynnal gigs mewn gwahanol leoliadau ar hyd a lled yr Ynys.
Mae'r broses yn cynnwys cyfansoddi geiriau a cherddoriaeth ar gyfer ei pherfformio, ac yna gellir recordio’r gwaith mewn stiwdio broffesiynol neu mewn canolfannau lleol. Mae'r prosiect yn galluogi i roi cyffyrddiad personol i’r gwaith, a bydd cyfle i ddylunio clawr ar gyfer cerddoriaeth y bandiau.
Bandiau
golyguBandiau sydd yn cael eu cynnwys ar hyn o bryd fel rhan o'r Rhwydwaith yw Carma ac An(n)earol.