Rhydwen Williams
Bardd a nofelydd yn y Gymraeg oedd Rhydwen Williams (29 Awst 1916 – 2 Awst 1997), a aned yn Y Pentre, Cwm Rhondda. Roedd yn awdur toreithiog. Mae'n adnabyddus am ei nofelau, yn arbennig y rhai sy'n portreadu cymunedau clos cymoedd De Cymru.
Rhydwen Williams | |
---|---|
Ganwyd | 29 Awst 1916 Pentre |
Bu farw | 2 Awst 1997 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Bywgraffiad
golyguCafodd Rhydwen ei addysg yn ysgolion elfennol ac uwchradd ei bentref genedigol cyn mynd yn ei flaen i astudio yng Ngholeg Prifysgol Abertawe a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Am ei fod yn genedlaetholwr Cymreig gwrthwynebodd gwasanaeth milwrol yn yr Ail Ryfel Byd ond ymunodd â'r gwasanaeth ambiwlans. Roedd yn gyfaill i'r awdur James Kitchener Davies ac yn aelod o Gylch Cadwgan.
Gwaith llenyddol
golyguCyhoeddodd bum cyfrol o gerddi a chipiodd y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberpennar 1946 ac Abertawe 1964.
Fel nofelwr ysgrifennodd ar sawl bwnc, gan gynnwys dychan ar Orsedd y Beirdd (Breuddwyd Rhonabwy Jones), ond ystyrir ei nofelau am gymunedau glofaol y De fel ei waith gorau, yn arbennig y nofel hir Cwm Hiraeth, a gyhoeddwyd mewn tair rhan (Y Briodas, Y Siôl Wen a Dyddiau Dyn) a'r nofel rymus Amser i Wylo am Danchwa Senghennydd 1913.
Llyfryddiaeth ddethol
golyguCerddi
golygu- Barddoniaeth (1964)
- Y Ffynhonnau (1970)
- Y Chwyldro Gwyrdd (1972)
- Ystlumod (1977)
- Dei Gratia (1984)
- Ys Gwn i a Cherddi Eraill (1986)
- Pedwarawd (1986)
Rhyddiaith
golygu- Arswyd y Byd (1949)
- Mentra Gwen (1953)
- Cwm Hiraeth
- Y Briodas (1969)
- Y Siôl Wen (1970)
- Dyddiau Dyn (1973)
- Breuddwyd Rhonabwy Jones (1972)
- The Angry Vineyard (1975). Ei unig waith Saesneg.
- Amser i Wylo (1986)
- Liwsi Regina (1988)
Astudiaethau
golygu- Bro a Bywyd: Rhydwen Williams, gol. Emyr Edwards (Cyhoeddiadau Barddas, 2002)