Tanchwa Senghennydd
Tanchwa Senghennydd oedd y drychineb waethaf yn hanes y diwydiant glo yng ngwledydd Prydain. Digwyddodd ym Mhwll Lancaster, Glofa'r Universal, ym mhentref glofaol Senghennydd, Sir Forgannwg. Digwyddodd y drychineb ar 14 Hydref 1913. Collodd 439 o ddynion a bechgyn y pwll eu bywydau a hynny ar doriad gwawr. Roedd hyn yn dilyn tanchwa cynharach, ar 24 Mai 1901, pan laddwyd 81 o ddynion.
![]() | |
Math | damwaith gwaith mwyngloddio ![]() |
---|---|
Nifer a laddwyd | 439 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Universal Colliery ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.6114°N 3.2813°W ![]() |
Cod OS | SP806757 ![]() |
![]() | |
Cyfnod | 14 Hydref 1913 ![]() |
- Gweler hefyd y dudalen gwahaniaethu, Senghennydd.
Y ffrwydrad yw'r ddamwain cloddio gwaethaf yng Nghymru erioed.[1][2] Roedd yn cynhyrchu glo ar gyfer peiriannau stêm neu ager, yn bennaf, ac roedd ynddo lawer o losgnwy (methan ac ocsigen gan fwyaf), nwy frwydrol iawn.
Yn yr ymchwiliad a ddilynodd y tanchwa, dywedwyd i'r rheolwr Edward Shaw a'r perchnogion fod yn esgeulus. Dirwywyd Shaw £24 a'r cwmni £10. Mae hyn yn cyfateb a gwerth bywyd o 5 ceiniog y person.
-
Torfeydd yn aros am newyddion yng Nglofa'r Universal, Senghenydd[3]
-
Agnes Mai Webber (13 oed) a'i chwaer fach yn chwilio ac yn aros am newyddion am ei thad
Tanchwaoedd Senghennydd blaenorol golygu
Tanchwa gyntaf Senghennydd golygu
Ar 24 Mai 1901 lladdwyd 81 o ddynion pan gafwyd tri ffrwydriad o dan y ddaear. Cafwyd ymchwiliad i'r drychineb ac ôl yr adroddiad roedd llawer gromod o lwch glo yn yr aer, a dim digon o ddŵr i'w gadw dan reolaeth. Dywedwyd hefyd fod llawer o fesurau diogelwch wedi eu torri gan y perchnogion.[4][5]
Ail danchwa Senghennydd golygu
Tua deuddeg mlynedd ynghynt, ym Mai 1901, bu tri ffrwydrad yn y lofa hon pan laddwyd 81 o bobl. Yn y cwêst dywedwyd mai'r achos pam y lladdwyd cymaint gan y ffrwydriad oedd fod cymaint o lo mân ar ffurf llwch yn yr awyrgylch - sydd fel arfer yn cario'r ffrwydriad lawer pellach drwy'r twneli. Ni chanfyddwyd achos ffrwydriad Senghennydd yn 1913 ond y farn gyffredinol yn y cwêst oedd mai offer signalu trydan oedd ar fai, gan danio'r nwyon. Medrwyd symud y dynion yn rhan ddwyreiniol y pwll allan yn saff, ond llosgwyd llawer o weithwyr y rhan orllewinol, a lladdwyd llawer gan y nwy carbon monocsid yn union wedi'r ffrwydriad.
Ataliwyd achub llawer o'r dynion gan y tanau - a gymerodd dros deuddydd i'w rheoli a 6 wythnos i'w diffodd; chymerodd 6 wythnos i'r achubwyr gludo'r cyrff allan i olau dydd.
Cofebion golygu
Yn 1981 dadorchuddwyd gofeb i'r rhai a fu farw yn y drychineb, gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol; fe'i lleolwyd y tu allan i Ysgol Gynradd Nant-y-parc ar safle'r hen bwll glo. Mae'r gofeb yn replica 20 feet (6 m) o gêr weindio'r pwll.[6]
Cafodd ail gofeb ei dadorchuddio yn 2006 i'r meirw o ffrwydrad cyntaf (1901) a'r ail (1913).[7]
-
Cofeb trychineb Senghenydd 2006
-
Cofeb Cloddio Glo Cenedlaethol Cymru, 2013, gan Les Johnson
Llyfryddiaeth golygu
- John H. Brown, The Valley of the Shadow: An Account of Britain's Worst Mining Disaster, the Senghennydd Explosion (Port Talbot, Alun Books, 1981)
- Rhydwen Williams, Amser i Wylo (Abertawe, 1986). Nofel rymus yn seiliedig ar y drychineb.
- Gareth F. Williams, Cwmwl dros y Cwm (Y Lolfa, 2013). Nofel i bobl ifanc am y drychineb.
- Jen Llywelyn, Remember Senghenydd: The Colliery Disaster of 1913 (Gwasg Carreg Gwalch, 2013)
Gweler hefyd golygu
Cyfeiriadau golygu
- ↑ http://www.amgueddfacymru.ac.uk/erthyglau/2012-07-06/Bywydau-Glowyr-yn-werth-5c-yr-un-Ymgynghoriad-y-Llywodraeth-i-drychineb-Senghennydd-1913/
- ↑ "'Bywydau Glowyr yn werth 5½c yr un': Ymgynghoriad y Llywodraeth i drychineb Senghennydd 1913", Amgueddfa Cymru; adalwyd 27 Gorffennaf 2023
- ↑ "The Burning Pit Disaster: Rescue Scenes at the Universal Colliery". The Illustrated London News. 18 Hydref 1913. t. 4.
- ↑ Duckham & Duckham 1973, tt. 160–61.
- ↑ Redmayne, Williams & Smillie 1914, t. 31.
- ↑ http://your.caerphilly.gov.uk/abervalleyheritage/visit-us/heritage-trail
- ↑ Jeanne Parry, "Dead Remembered", South Wales Echo, 13 Hydref 2006