Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 1964
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 1964 yn ninas Abertawe. Archdderwydd yr eisteddfod oedd Cynan.
Enillydd y Gadair oedd R. Bryn Williams am ei awdl Patagonia.
Enillydd y Goron oedd Rhydwen Williams am ei bryddest Ffynhonnau.
Enillydd Y Fedal Ryddiaith oedd Rhiannon Davies Jones am y nofel fer Lleian Llan-Llŷr.