Rhyfel Cosofo
Dechreuodd Rhyfel Cosofo ym 1998 gyda gwrthdaro rhwng lluoedd Gweriniaeth Ffederal Iwgoslafia a Byddin Rhyddhau Cosofo. Rhwng 24 Mawrth a 11 Mehefin 1999, bomiodd NATO Iwgoslafia trwy Ymgyrch Grym Cynghreiriol. Cafodd bron i 1 miliwn o boblogaeth Cosofo, y mwyafrif ohonynt yn Albaniaid ethnig ond yn cynnwys Serbiaid lleol hefyd, ei dadleoli yn ystod y rhyfel, a llwyddodd y rhan fwyaf i ddychwelyd wedi i'r rhyfel ddod i ben.
Ystyrid Rhyfel Cosofo y rhyfel dyngarol cyntaf gan rai, ond bu nifer o agweddau'r gwrthdaro, gan gynnwys cyfrifoldebau, cyhuddiadau o droseddau rhyfel, ac ymyrraeth NATO, yn ddadleuol iawn.
