Rhyfel Sbaen ac America
rhyfel yn 1898 rhwng Sbaen ac Unol Daleithiau America
(Ailgyfeiriad o Rhyfel Sbaenaidd–Americanaidd)
Rhyfel imperialaidd rhwng Sbaen ac Unol Daleithiau America ym 1898 oedd Rhyfel Sbaen ac America. Ym 1896 penodwyd y Cadfridog Valeriano Weyler i lywodraethu ynys Ciwba, gwladfa a fu'n gwrthryfela yn erbyn Ymerodraeth Sbaen ers y 1860au. Dechreuodd y frwydr ddiweddaraf dros annibyniaeth ym 1895, ac ymatebodd Weyler drwy sefydlu gwersylloedd crynhoi i garcharu gwrthryfelwyr a'r rhai oedd yn eu cefnogi. Anogwyd ymyrraeth yng Nghiwba gan ddiddordebau busnes Americanaidd a oedd yn buddsoddi yn niwydiant siwgr yr ynys. Taniwyd y rhyfel gan suddo'r USS Maine, llong o Lynges yr Unol Daleithiau, yn Harbwr La Habana ar 15 Chwefror 1898.
Enghraifft o'r canlynol | rhyfel |
---|---|
Dyddiad | 1898 |
Rhan o | Chwyldro'r Philipinau, Rhyfel Annibyniaeth Ciwba |
Dechreuwyd | 25 Ebrill 1898 |
Daeth i ben | 11 Awst 1898 |
Rhagflaenwyd gan | Rhyfel Annibyniaeth Ciwba |
Lleoliad | Môr y Caribî |
Yn cynnwys | Brwydr Santiago de Cuba |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Eginyn erthygl sydd uchod am ryfel neu wrthdaro milwrol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.