Rhys Evans
dewin a phroffwyd
Proffwyd a dewin a anwyd yn Llangelynnin ger Tywyn, Gwynedd oedd Rhys Evans (tua 1607 - ar ôl 1660). Bu'n brentis i deiliwr o Wrecsam ac yno y dechreuodd broffwydo a phrofi gweledigaethau rhyfeddol.[1] Dechreuodd alw ei hun yn "Arise Evans" ac wrth yr enw hwnnw mae'n cael ei adnabod fel arfer.[2]
Rhys Evans | |
---|---|
Ffugenw | Arise Evans |
Ganwyd | 1607 Llangelynnin |
Bu farw | 1660 |
Man preswyl | Wrecsam, Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | dewin |
Blodeuodd | 1607 |
Symudodd i Lundain yn 1629. Proffwydodd beth fyddai tynged pwysigion byd gwleidyddol y ddinas ac yn yr 1650au yn ystod llywodraeth Oliver Cromwell dechreuodd broffwydo union ddyddiad dychwelyd brenhiniaeth Lloegr ac fe'i gwnaed yn gocyn hitio am hyn gan lawer. Ond coronwyd Siarl II ar yr union ddyddiad, a thawelwyd ei feirniaid.[1]
Llyfrau
golyguCyhoeddodd sawl llyfr a phamffled, yn cynnwys:
- Narration of the Life, Calling and Visions of Arise Evans[2]