Rhys Jones o'r Blaenau

hynafiaethydd a bardd

Roedd Rhys Jones (171314 Chwefror 1801) yn fardd a hynafiaethydd o Lanfachreth, ger Dolgellau. Cyhoeddodd un o gyfrolau mwyaf dylanwadol y 18g sef Gorchestion Beirdd Cymru ym 1773.[1]

Rhys Jones o'r Blaenau
Ganwyd1713 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw14 Chwefror 1801 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, golygydd Edit this on Wikidata

Roedd hefyd yn un o sefydlwyr a mynychwyr Cymdeithas y Lloerigyddion a gyfarfyddai yn nhafarn Drws y Nant, a leolid rhwng Rhydymain a Llanuwchllyn, bob nos Iau cyn y lleuad llawn. Mae'n debygol bod y gymdeithas wedi ei sefydlu o dan ddylanwad cymdeithasau yn Lloegr megis yr Lunar Society (a elwid hefyd y Lunatick Society), lle roedd dynion (fel arfer) dylanwadol yn cwrdd i drafod syniadau, ond hefyd yr Hellfire Club lle roedd hedonistiaeth yn arferol.

Geiriau cytgan arwyddgan agoriadol y Gymdeithas Loerig, a gyfansoddwyd gan Rhys Jones, yw: "Fal pysg traflyngcwn, Fal Bleiddiaid bloeddiwn, Ag yfwn yn ddi gwrs, At iechyd Hymen A Syr Sion Heidden, Tra dalio llen y pen a'r pwrs."[2]

Cyfeiriadau golygu