Rhys Lewis

nofel o 1885 gan Daniel Owen; y nofel sylweddol cyntaf a ysgrifennwyd yn yr iaith Gymraeg

Nofel gan Daniel Owen yw Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel. Fe'i cyhoeddwyd gyntaf yn 1885, ac yn ddiweddar mae wedi ei haddasu ar gyfer y teledu.

Rhys Lewis.jpg
Clawr yr argraffiad diweddaraf o Rhys Lewis
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurDaniel Owen
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1885 Edit this on Wikidata
GenreNofel
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata

CynllunGolygu

Ysgrifennir y nofel hon yn y person cyntaf, yn croniclo hunangofiant Rhys ers ei ddyddiau cyntaf. Mae bywyd yn galed i Rhys, ac mae llu o brofedigaethau yn taro'i deulu a'i gymuned. Trwythir Rhys yn drwyadl mewn Methodistiaeth gan ei fam, a chyda chymorth ambell gyfaill fe ddaw yn weinidog Bethel.

Cymeriad hoffus arall yw Wil Bryan, ychydig yn hŷn na Rhys, a'i gyfaill pennaf. Lle mae Rhys yn ymdrechu i ymddwyn yn gywir, mae Wil yn llawn direidi, ond rhywsut fe welwn fod Wil, erbyn diwedd y llyfr, wedi llwyddo mewn bywyd.

Mae ochr dywyll i'r nofel, a dydy pechod a drygioni perthnasau eraill yn y cysgodion byth yn bell i ffwrdd. Mae iselder ysbryd a phruddglwyf yn treiddio drwy'r hanes.

CymeriadauGolygu

  • Abel Huws, patrwm o flaenor traddodiadol, cadarn a di-lol.

LlyfryddiaethGolygu

  • Rhys Lewis (Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1885)
    • Ailgyhoeddwyd gan Hughes a'i Fab yng 'Nghyfres Clasuron Hughes', Hydref 2002

CyfeiriadauGolygu