Rhyw ar y Traeth
Mae Rhyw ar y Traeth (Saesneg: Sex on the Beach) yn goctel alcoholaidd sy'n cynnwys fodca, schnapps blas eirin blewog, sudd oren a sudd llugaeron. Mae'r coctel yn cael ei hyfed fel arfer yn ystod misoedd yr haf. Mae'n Cocktail Swyddogol IBA.[1]
Math o gyfrwng | Coctel Swyddogol yr IBA |
---|---|
Math | Coctel |
Lliw/iau | oren |
Deunydd | fodca, schnapps plas eirin blewog, sudd oren, sudd llugaeron, gwydr tal, ciwb ia, sleisen o oren |
Enw brodorol | Sex On the Beach |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hanes
golyguMae nifer o straeon sy'n honni adrodd tarddiad Rhyw ar y Traeth. Mae un yn honni bod y coctel yn tarddu o Florida, UDA yng ngwanwyn 1987 a oedd yn cyd-fynd â gwerthu schnapps plas eirin blewog am y tro cyntaf. Dyfeisiodd gwas bar yn Confetti's Bar y cymysgedd a rhoddodd yr enw Sex on the Beach iddi i gyfeirio at ymddygiad nifer o dwristiaid a oedd yn ymweld â thraethau Florida bob gwanwyn.[2]
Mathau cyffredinol
golyguMae yna ddau fath cyffredinol o'r coctel:
Gwneir y math cyntaf allan o fodca, schnapps eirin blewog, sudd oren, a sudd llugaeron. Dyma rysáit Swyddogol y Gymdeithas Gweision Bar.[1]
Gwneir yr ail fath allan o fodca, Chambord, gwirodlyn melon Midori, sudd pîn-afal, a sudd llugaeron. Mae'r math hwn wedi'i restru yng Nghanllaw Swyddogion Gweision Bar Mr Boston.[3]
Mae'r ddiod yn cael ei hadeiladu dros iâ mewn gwydr uchel ac yn cael ei addurno â sleisen o oren. Weithiau mae'r cynhwysion yn cael eu cymysg mewn mesurau llai ac yn cael eu gweini fel siot .
Amrywiadau
golyguCyfeirir at amryw amrywiadau ar y rysáit fel Rhyw ar y Traeth hefyd:
- Mae rysáit yr Hard Rock Cafe wedi ei selio ar yr ail fath cyffredin gan ddefnyddio fodca, Midori, Chambord, sudd lemon, sudd pinafal a syryp siwgr wedi ei hysgwyd a chael ei thywallt dros rew i mewn i wydr Collins.
- Mae amrywiadau eraill yn defnyddio sudd oren a sudd pinafal.
- Weithiau bydd rym cneuen goco yn cael ei ddefnyddio yn lle'r fodca. Weithiau mae Grenadin yn cael ei ddefnyddio yn lle sudd llugaeron yn arbennig mewn lleoliadau lle nad yw llugaeron yn hawdd eu caffael.
- Weithiau defnyddir Amaretto i ychwanegu blas ychwanegol.
- Weithiau bydd Rhyw ar y Traeth yn cael ei wneud fel siot yn cynnwys hanner a hanner o schnapps a grenadine.
Mae gan rai amrywiadau eu henwau eu hunain:
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 International Bartenders Association SEX ON THE BEACH Archifwyd 2017-05-09 yn y Peiriant Wayback adalwyd 3 Chwefror 2018
- ↑ Huffpost - Here's How 'Sex On The Beach' Actually Got Its Terrible Name adalwyd 3 Chwefror 2018
- ↑ Mr. Boston Official Bartender's Guide (67th ed.). Hoboken, New Jersey: Wiley. 2008. ISBN 978-0-470-39065-8.
- ↑ Safe Sex on the Beach Mocktail Cocktail Day - Mom's Test Kitchen adalwyd 3 Chwefror 2018
- ↑ Cuddles on the Beach mocktail - Mix That Drink adalwyd 3 Chwefror 2018
- ↑ Virgin On The Beach Drink Recipe - Just A Pinch Recipes adalwyd 3 Chwefror 2018