Richard A. Jones (ffisegwr)

Athro mewn Ffiseg Deunyddiau a Pholisi Arloesi yw Richard Anthony Lewis Jones FRS[1] (ganwyd 1961)[2][3]. Bu'n athro ym Mhrifysgol Sheffield hyd 2020 cyn symud i Brifysgol Manceinion, ble mae hyd heddiw'n Athro mewn Ffiseg ac yn Rhag Is-ganghellor.[4][5][6] Treuliodd rhan o'i blentyndod yn byw ym Mhwllheli gyda'i fam a'i rhieni, ym 1967.[7]

Richard Jones
GanwydRichard Anthony Lewis Jones
1961 (62–63 oed)
Stamford, Swydd Lincoln
MeysyddFfiseg
Mater meddal
Polisi gwyddoniaeth
Sefydliadau
Alma materPrifysgol Caergrwant (BA, PhD)
ThesisMutual diffusion in miscible polymer blends (1987)
Enwog amMater Meddal Cyddwysiedig
Gwefan
softmachines.org

Addysg golygu

Addysgwyd Jones yng Ngholeg Denstone[3] a Choleg y Santes Catrin, Caergrawnt, ble y safodd Tripos mewn Gwyddorau Naturiol a derbyn Baglor mewn Celfyddydau ym maes Ffiseg ym 1983.[3] Parhaodd i astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt, ble y derbyniodd doethuriaeth mewn trylediad mewn cyfuniadau polymer.[8]

Gyrfa ac ymchwil golygu

Wedi cyfnod o ymchwil ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Cornell, fe'i benodwyd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Caergrawnt yn Labordy Cavendish ac ym 1998 fe'i penodwyd yn athro ym Mhrifysgol Sheffield.[9]

Maes ymchwil Jones yw ffiseg polymerau a bio-polymerau ar arwynebau a rhyngwynebau, gyda goblygiadau ar gyfuniadau polymer.[1] Arloesodd yn nefnydd o ddulliau pelydr ïon i astudio arwahanu un gydran i wyneb cyfuniad. Yn ei dro, arweiniodd hyn at arbrofion ar ledu tonnau capilari rhyngwynebau, gan ddefnyddio adlewyrchedd niwtronau.[1] Mae ei arbrofion ar drwch-dibyniaeth trawsnewidiadau gwydr mewn ffilmiau tenau, wedi ysgogi maes ymchwil newydd. Ymestyn ei astudiaethau i ddadnatureiddio proteinau ar ryngwynebau, gan ddangos sut mae hydroffiligrwydd arwyneb yn cael effaith gref, gyda goblygiadau ar gyfer problemau yn amrywio o faeddu i afiechyd.

Yn 2018, yr oedd yn gyd-awdur The Biomedical Bubble[10] gyda James Wilsdon [1], a oedd yn dadlau bod angen mwy o amrywiaeth o flaenoriaethau, gwleidyddiaeth, lleoedd a phobl ar Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig (UKRI).[11][12][13][14][15]

Yn 2020, symudodd Jones i Fanceinion.

Gwobrau ac anrhydeddau golygu

Etholwyd Jones yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol (FRS) yn 2006 am "gyfraniadau sylweddol i wella gwybodaeth naturiol".

Yn 2008 enillodd Fedal a Gwobr David Tabor y Sefydliad Ffiseg.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "Richard Jones". royalsociety.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 30 Mawrth 2022.
  2. "Library of Congress LCCN Permalink n98023969". lccn.loc.gov. Cyrchwyd 2022-03-30.
  3. 3.0 3.1 3.2 "Jones, Prof. Richard Anthony Lewis, (born 7 March 1961), Professor of Materials Physics and Innovation Policy, University of Manchester, since 2020". WHO'S WHO & WHO WAS WHO (yn Saesneg). doi:10.1093/ww/9780199540884.013.u151439. Cyrchwyd 2022-03-30.
  4. "Richard A Jones". scholar.google.co.uk. Cyrchwyd 2022-03-30.
  5. "Scopus preview - Jones, Richard A.L. - Author details - Scopus". www.scopus.com. Cyrchwyd 2022-03-30.
  6. "Soft Machines – Some personal views on nanotechnology, science and science policy from Richard Jones" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-03-30.
  7. Jones, Richard (2015-12-16). "Land of my Fathers (and they can keep it)". Soft Machines. Cyrchwyd 2022-04-01.
  8. Jones, R. a. L. (1987), Mutual diffusion in miscible polymer blends, University of Cambridge, https://ethos.bl.uk/OrderDetails.do?uin=uk.bl.ethos.233254, adalwyd 2022-03-30
  9. says, Jennifer Sharma. "About Richard Jones – Soft Machines" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-03-30.
  10. "The Biomedical Bubble". nesta (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-03-30.
  11. Lancet, The (2018-07-21). "UK life science research: time to burst the biomedical bubble" (yn English). The Lancet 392 (10143): 187. doi:10.1016/S0140-6736(18)31609-X. ISSN 0140-6736. PMID 30043738. https://www.thelancet.com/journals/lancet/article/PIIS0140-6736(18)31609-X/abstract.
  12. Ahuja, Anjana (2018-07-16). "Britain must stop inflating the biomedical bubble". Financial Times. Cyrchwyd 2022-03-30.
  13. "It's time to burst the biomedical bubble in UK research". the Guardian (yn Saesneg). 2018-07-12. Cyrchwyd 2022-03-30.
  14. "Rethinking the life sciences strategy". Wonkhe (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-03-30.
  15. "MRC Insight blog". www.ukri.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-03-30.