Richard Neville, 16ed Iarll Warwick

gwleidydd, diplomydd, arweinydd milwrol (1428-1471)

Uchelwr o Sais oedd Richard Neville, 16ed Iarll Warwick (Saesneg: Richard Neville, 16th Earl of Warwick) (22 Tachwedd 1428 – 14 Ebrill 1471), a adnabyddir hefyd fel Gwneuthurwr Brenhinoedd (Saesneg: Warwick the Kingmaker); roedd hefyd yn weinyddwr ac yn gadlywydd. Ganwyd ef yn fab i Richard Neville, 5ed Iarll Salisbury, Warwick oedd un o ieir cyfoethocaf a mwyaf pwerus ei oes. Roedd yn un o brif arweinwyr Rhyfel y Rhosynnau, yn wreiddiol ar ochr yr Iorciaid cyn newid ei gôt a throi at y Lancastriaid. Roedd yn allweddol yn y gwaith o gael gwared o ddau frenin a galwyd ef y 'Gwneuthurwr Brenhinoedd', ganrifoedd ar ôl iddo farw.

Richard Neville, 16ed Iarll Warwick
Ganwyd22 Tachwedd 1428 Edit this on Wikidata
Norwich Edit this on Wikidata
Bu farw14 Ebrill 1471 Edit this on Wikidata
Barnet Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaetharweinydd milwrol, diplomydd, gwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
TadRichard Neville Edit this on Wikidata
MamAlice Montacute Edit this on Wikidata
PriodAnne Neville Edit this on Wikidata
PlantAnne Neville, Isabel Neville, duges Clarence, Margaret Neville Edit this on Wikidata
LlinachHouse of Neville Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd y Gardas Edit this on Wikidata
llofnod
Hoff breswylfa Richard Neville: Castell Middleham yng Ngogledd Swydd Efrog

Drwy etifeddu arian a phriodi arian, erbyn 1450 roedd yng nghanol gwleidyddiaeth Lloegr. Cefnogodd Harri VI, brenin Lloegr ar y dechrau ond yn dilyn ffrae gydag Edmund Beaufort, dug cyntaf Somerset, ochrodd gyda Richard Plantagenet, 3ydd dug York, yn ei wrthwynebiad i'r brenin. Fe'i gwnaed yn Gwnstabl Calais, ardal a oedd ym meddiant Lloegr bryd hynny. Lladdwyd York ym Mrwydr Wakefield, a lladdwyd ei dad ei hun yn yr un brwydr. Cafodd Edward gefnogaeth Warwick ar y cychwyn, ond anghytunent parthed polisi tramor yn ogystal â dewis y brenin o wraig: dewisiodd un o'r werin gyffredin (Elizabeth Woodville). Wedi cynllwyn aflwyddiannus i goroni brawd Edward, George Plantagenet, dug cyntaf Clarence, cefnogodd Warwick Harri VI. Byr oedd y dathlu, fodd bynnag, ac ar 14 Ebrill 1471 gorchfygwyd Edward ym Mrwydr Barnet, a bu farw.

Cyfeiriadau golygu

  •   "Neville, Richard (1428-1471)" . Dictionary of National Biography. Llundain: Smith, Elder & Co. 1885–1900.
  • Carpenter, Christine (1992). Locality and Polity: A Study of Warwickshire Landed Society, 1401–1499. Cambridge: Cambridge University Press. ISBN 0-521-37016-7.
  • Carpenter, Christine (1997). The Wars of the Roses: Politics and the Constitution in England, c. 1437–1509. Cambridge: Cambridge University Press. ISBN 0-521-31874-2.
  • Harriss, G. L. (2005). Shaping the Nation: England, 1360–1461. Oxford: Oxford University Press. ISBN 0-19-822816-3.
  • Hicks, Michael (1991). Richard III and his rivals: magnates and their motives in the Wars of the Roses. London: Hambledon Continuum. ISBN 978-1-85285-053-1.