Cangen o deulu brenhinol y Plantagenets oedd Teulu'r York neu Iorciaid, a gychwynodd gydag Edmund o Langley, dug Efrog (marw 1402) sef pedwerydd mab (a fu byw) i Edward III, brenin Lloegr. Daeth tri o aelodau'r teulu'n frenhinoedd ar Loegr. Ar y linell waed hon yr hawliwyd coron Lloegr gan y teulu, ac ar eu perthynas i Lionel, Duke of Clarence, ail fab (a fu byw) Edward III.[1][2] Daeth y llinach Iorcaidd i ben pan laddwyd Rhisiart III, brenin Lloegr ym Mrwydr Bosworth yn 1485. Daeth y linell waed i ben pan y bu farw Edward Plantagenet, 17fed Iarll Warwick yn 1499.

Iorciaid
Enghraifft o'r canlynolteulu o uchelwyr Edit this on Wikidata
Label brodorolHouse of York Edit this on Wikidata
Rhan oLlinach y Plantagenet Edit this on Wikidata
Yn cynnwystuduriaid Edit this on Wikidata
SylfaenyddEdmund o Langley, dug 1af York Edit this on Wikidata
Enw brodorolHouse of York Edit this on Wikidata
GwladwriaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Arfbais yr Iorciaid

Y llinach drwy Edward III golygu

Priododd mab Edmund o Langley, dug Efrog, sef Richard (m. 1415) gydag Anne, chwaer ac aeres Edmund Mortimer, pumed iarll Mawrth (m. 1425). Drwy Risiart yr hawliodd Iorciaid Rhyfel y Rhosynnau goron Lloegr. Roedd Anne yn orwyres i Lionel, dug Clarence, yr ail o feibion Edward III i dyfu'n oedolyn. Etifeddodd ei mab Richard dug York (m. 1460) holl diroedd y Mortimers, gan ei fam. Etifeddodd gan ei dad y trydydd o linachau a darddai o Edward III. Pan y bu farw Edmund Mortimer, 5ed iarll March, yn 1425 heb blant, etifeddodd ei eiddo yntau hefyd. Roedd Richard, felly, drwy deulu'r Mortimers yn ddisgynnydd i Gwladus Ddu, merch Llywelyn ap Iorwerth, yn aer i hawliau ac etifeddiaeth Tywysogion Gwynedd.[3]

Allwedd
Yr Iorciaid
Edward III,
brenin Lloegr

1312–1377
Lionel,
dug 1af Clarence
1338–1368
Philippa
5ed iarlles Ulster
1355–1382
Edmund o Langley,
dug 1af York
1341–1402
Roger Mortimer,
4ydd iarll March
1374–1398
Anne Mortimer
1390–1411
Richard o Conisburgh,
3ydd iarll Cambridge
1375–1415
Edward o Norwich,
ail ddug York
1373–1415
Richard Plantagenet,
3ydd dug York
1411–1460
Edward IV,
brenin Lloegr

1442–1483
Edmund,
iarll Rutland
1443–1460
George Plantagenet,
dug 1af Clarence
1449–1478
Richard III,
brenin Lloegr

1452–1485
Edward V,
brenin Lloegr

1470–1483?
Richard o Amwythig,
dug 1af Efrog
1473–1483?
Edward Plantagenet,
17fed iarll Warwick
1475–1499
Edward,
tywysog Cymru

1473–1484

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Morgan, Kenneth O. (2000). The Oxford Illustrated History of Britain. Oxford: Oxford University Press. t. 623. ISBN 0-19-822684-5.
  2. "House of York". 1911Encyclopedia.org. Cyrchwyd 4 Hydref 2007.
  3. Gwyddoniadur Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru); 2008.