Richard O'Brien
sgriptiwr ffilm a chyfansoddwr a aned yn 1942
Mae Richard Timothy Smith (ganwyd 25 Mawrth 1942), sy'n fwy adnabyddus o dan ei enw llwyfan Richard O'Brien yn actor, ysgrifennwr, cyflwynwr teledu a pherfformiwr mewn theatrau. Cafodd ei eni yn Lloegr a'i fagu yn Seland Newydd. Mae'n fwyaf enwog am ysgrifennu'r sioe gerdd gwlt The Rocky Horror Show ac am gyflwyno'r gyfres deledu boblogaidd The Crystal Maze. Yn ogystal ag ysgrifennu The Rocky Horror Show, roedd ef hefyd wedi serennu yn yr addasiad ffilm o'r sioe The Rocky Horror Picture Show wrth chwarae rhan Riff Raff.
Richard O'Brien | |
---|---|
Ganwyd | 25 Mawrth 1942 Cheltenham |
Dinasyddiaeth | Seland Newydd, y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, dramodydd, cyfansoddwr, sgriptiwr, llenor, actor ffilm, cyflwynydd teledu, actor teledu, awdur teledu, sgriptiwr ffilm, video game actor, actor llais |
Adnabyddus am | The Rocky Horror Show |
Priod | Kimi Wong O'Brien |