The Rocky Horror Show
Sioe lwyfan gerddorol The Rocky Horror Show, a agorodd yn Llundain ar 19 Mehefin, 1973. Cafodd ei ysgrifennu gan Richard O'Brien, a chafodd ei datblygu gan O'Brien gyda chydweithrediad y cyfarwyddwr theatr Awstralaidd Jim Sharman. Daeth y sioe yn rhif wyth mewn arolwg o wrandawyr Radio 2 y BBC o'r enw "Nation's Number One Essential Musicals".
The Rocky Horror Show | |
Poster y sioe wreiddiol | |
---|---|
Cerddoriaeth | Richard O'Brien |
Geiriau | Richard O'Brien |
Llyfr | Richard O'Brien |
Cynhyrchiad | 1973 West End 1974 Los Angeles 1974 Sydney 1975 The Rocky Horror Picture Show 1975 Broadway 1990 West End 1998 Taith y DU 2000 Adfywiad Broadway 2002 Taith y DU 2006 Taith y DU 2008 Taith Awstralaidd 2008 Taith Ewropeaidd |
Gwobrau | Gwobr Ddrama'r Evening Standard 1973, Sioe Gerdd Orau Gwobr Plays and Players 1973, Sioe Gerdd Newydd Orau |
Ym 1975, addaswyd y sioe i greu'r ffilm The Rocky Horror Picture Show.
Rhestr o'r Caneuon Gwreiddiol
golygu
|
|
Cast Gwreiddiol y Sioe yn Llundain
golygu- Patricia Quinn fel Usherette/Magenta
- Julie Covington fel Janet Weiss
- Christopher Malcolm fel Brad Majors
- Jonathan Adams fel yr Adroddwr
- Richard O'Brien fel Riff Raff
- Little Nell fel Columbia
- Tim Curry fel Frank-n-Furter
- Rayner Bourton fel Rocky
- Paddy O'Hagan fel Eddie/Dr. Everett Scott
Cymryd Rhan
golyguYn ystod perfformiadau, anogwyd y gynulleidfa i gymryd rhan yn y perfformiad. Yr eitem mwyaf cyffredin i'w defnyddio yw:
- Party Poppers, Het, Chwythwyr i'w defnyddio yn ystod golyfga'r pryd bwyd / golygfa penblwydd hapus yn y ddrama.
- Gynnau dwr - er mwyn ceisio cyfleu'r storm y caiff Brad a Janet eu dal ynddo.
- Fflachlampau - i oleuo'r ystafell yn ystod y pennill "there's a light" yn y gân "Over at the Frankenstein Place."
- Papur tŷ bach - i'w daflu ar fynediad Dr. Scott pan fo Brad yn ebychu "Great Scott!"
- Confetti- i'w daflu ar y llwyfan ar ddiwedd y gân Charles Atlas.
Yn ystod y blynyddoedd diweddaraf, mae theatrau wedi annog pobl i beidio a chymryd rhan yn sgîl rheolau iechyd a diogelwch a'r perygl o gael sbwriel a dwr ar lwyfan.[1][2].