Richard Vaughan (esgob)

esgob

Clerigwr o Gymru a fu'n Esgob Bangor ac yn ddiweddarach yn Esgob Caer ac Esgob Llundain oedd Richard Vaughan (c.155030 Mawrth 1607).

Richard Vaughan
Ganwydc. 1550 Edit this on Wikidata
Penrhyn Llŷn Edit this on Wikidata
Bu farw30 Mawrth 1607 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad Edit this on Wikidata
SwyddEsgob Llundain, esgob Edit this on Wikidata
TadThomas ap Robert Vaughan Edit this on Wikidata
MamCatrin ferch Gruffudd John Gruffudd Edit this on Wikidata
PlantDorothy Vaughan, Elizabeth Vaughan, Joanna Vaughan Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ganed ef yn Nyffryn, Llŷn, yn fab i Thomas ap Robert Fychan. Addysgwyd ef yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt, lle graddiodd yn B.A. yn 1574, M.A. yn 1577, a D.D. yn 1589. Daeth yn gaplan i John Aylmer, Esgob Llundain, yna'n rheithor Chipping Ongar o 1578 hyd 1580, Little Canfield yn 1580, Great Dunmow a Moreton yn 1592, a Stanford Rivers yn 1594.

Daeth yn Esgob Bangor yn 1595, yna trosglwyddyd ef i fod yn Esgob Caer yn 1597, ac yna yn Esgob Llundain o 1604 hyd 1607.

Pan oedd yn esgob Caer gwnaeth safiad yn erbyn "gwrthodwyr" Pabyddol; safodd hefyd yn erbyn rhai Piwritaniaid eithafol pan oedd yn esgob Llundain, gan eu tawelu.

Cyfeiriadau

golygu