Risin
Protein gwenwynig yw risin a ddaw o'r planhigyn trogenllys (Ricin communis). Gwneir y gwenwyn o'r gwastraff a gynhyrchir wrth brosesu hadau'r trogenllys ("hadau castor"). Gall y gwenwyn bod ar ffurf powdwr, erosol, neu beled, a gellir mynd i mewn i'r corff trwy ei fwyta, ei anadlu, neu drwy bigiad.[1] Mae'n bosib i risin effeithio ar y corff trwy fwyta hadau'r trogenllys yn unig, ond gan amlaf mae angen creu risin yn fwriadol i'w alluogi i wenwyno pobl.[2]
Mae risin yn atal celloedd y corff rhag creu proteinau sydd eu hangen arnynt, ac felly mae'r celloedd yn marw. Yn y bôn gall hyn yn effeithio ar yr holl corff, gan achosi marwolaeth.[2] Dim ond dos o 500 microgram sydd angen i risin fod yn angheuol i fod dynol.[1]
Arwyddion a symptomau
golyguMae prif symptomau gwenwyn risin yn dibynnu ar sut y derbynwyd y risin. Os yw person wedi anadlu'r risin i mewn i'w gorff, ceir anhawster anadlu, twymyn, peswch, cyfog, a phoen yn y frest, rhwng 4 a 24 awr wedi iddynt anadlu'r risin. Gall y claf hefyd chwysu'n drwm a dioddef oedema ysgyfeiniol, ac o bosib bydd ei groen yn troi'n las. Gall pwysedd gwaed isel a methiant anadlu yna achosi marwolaeth. Os yw person yn cnoi neu'n llyncu risin, bydd symptomau'n ymddangos o fewn 10 awr gan gynnwys chwydu a dolur rhydd, ac yn hwyrach dadhydradu a phwysedd gwaed isel ac o bosib confylsiynau a gwaed yn ei wrin. O fewn ychydig o ddyddiau mae'n bosib bydd yr afu, y ddueg, a'r arennau'n methu gan ladd y claf. Yn anaml bydd risin yn mynd i mewn i'r corff trwy'r croen, ond gall cyffwrdd risin achosi cochni a phoen ar y croen a'r llygaid. Mewn achosion difrifol, bydd y gwenwyn yn effeithio ar nifer o organau'r corff a gall y claf marw o fewn 36 i 72 awr, yn dibynnu ar ddos y gwenwyn a sut daeth i mewn i'r corff.[2]
Triniaeth
golyguNid oes gwrthwenwyn am risin, felly yr unig modd i'w drin yw i wared y corff rhag y gwenwyn ac i leihau ei effaith.[2]
Hanes
golyguCafodd y llenor Bwlgaraidd Georgi Markov ei lofruddio yn Llundain ym 1978, gan ddyn a ddefnyddiodd ymbarél i saethu peled o risin i mewn i goes Markov.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Mosby's Medical Dictionary (St Louis, Missouri, Mosby Elsevier, 2009 [wythfed argraffiad]), t. 1630. ISBN 978-0323052900
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) Facts About Ricin. Centers for Disease Control and Prevention, Llywodraeth yr Unol Daleithiau. Adalwyd ar 19 Ebrill 2013.