Roald Amundsen
Roedd Roald Engelbregt Gravning Amundsen (16 Gorffennaf 1872 – 18 Mehefin 1928) yn anturiaethwr o Norwy a deithiodd o gwmpas yr Arctig ac Antarctica.
Roald Amundsen | |
---|---|
![]() | |
Ynganiad |
RoaldAmundsen.ogg ![]() |
Ganwyd |
16 Gorffennaf 1872 ![]() Borge ![]() |
Bu farw |
18 Mehefin 1928 ![]() Achos: damweiniau a digwyddiadau awyrennu ![]() Môr Barents, Ynys yr Eirth ![]() |
Man preswyl |
Roald Amundsens house in Uranienborg, Oslo, Fredrikstad ![]() |
Dinasyddiaeth |
Norwy ![]() |
Galwedigaeth |
fforiwr, ysgrifennwr, morwr, ymchwilydd, fforiwr pegynol, hedfanwr ![]() |
Tad |
Jens Amundsen ![]() |
Gwobr/au |
Gwobr Rhagoriaeth Fridtjof Nansen mewn Mathemateg a'r Gwyddorau Naturiol, Marchog Croes Uwch Urdd Sant Olav, Medal Hubbard, Medal Constantin, Knight of the Order of Leopold, Vega Medal, Alexander von Humboldt Medal, Medal y Noddwr, Medal Aur y Gyngres, Légion d'honneur, Grande Médaille d'Or des Explorations, Medal for Outstanding Civic Service, Fortjenstmedaljen, Medal y Pegynau, Charles P. Daly Medal, Urdd Sant Olav, Gwobr "Plus Ultra", Medal for Aeronautical Valour ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Mae'n fwyaf enwog am gyrraedd Pegwn y De cyn unrhyw ddyn arall, a hynny ar 14 Rhagfyr 1911 gyda chriw o ddynion. Fe'i ddilynwyd gan y Sais Robert Falcon Scott, 35 o ddiwrnodau'n hwyrach.
Bu farw mewn damwain awyren dros Fôr yr Arctig ym Mehefin 1928 tra'n ceisio achub yr Eidalwr Umberto Nobile, a oedd yn ceisio hedfan dros Begwn y Gogledd mewn llong awyr. Ni ddarganfuwyd awyren Amundsen.
Mae Gorsaf Amundsen-Scott ar Begwn y De, Môr Amundsen oddi ar Antarctica, a Chrater Amundsen ar wyneb y Lleuad, i gyd wedi'u enwi ar ei ôl.