Môr Amundsen
Braich o Gefnfor y De yw Môr Amundsen, oddi ar Dir Marie Byrd yng ngorllewin yr Antarctig. Gorwedd Ynys Thurston i'r dwyrain a Penrhyn Dart i'r gorllewin. Cafodd y môr hwn ei enwi er anrhydedd y fforiwr Norwyaidd Roald Amundsen gan daith fforio Norwyaidd 1928-29, dan y Capten Nils Larsen, wrth iddynt fforio'r ardal yma yn Chwefror 1929.
![]() | |
Math | môr ymylon ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Roald Amundsen ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Cefnfor y De ![]() |
Sir | Ardal Cytundeb Antarctig ![]() |
Cyfesurynnau | 73°S 112°W ![]() |
![]() | |
Gorchuddir y rhan fwyaf o'r môr gan rew ac mae Tafod Rhew Thwaites yn ymwthio iddo. Mae gan y llen iâ sy'n llifo i Fôr Amundsen drwch o tua 3 km (2 milltir); mae tua'r un maint â thalaith Texas. Mae'n un o dri basn iâ mwyaf Llen Iâ Gorllewin yr Antarctig.
Dolenni allanolGolygu
- (Saesneg) Arolwg geoffisegol o'r ardal Archifwyd 2007-01-03 yn y Peiriant Wayback.
- (Saesneg) Y llen iâ yn teneuo