Robert G. Ingersoll
Gwleidydd, areithydd a rhyddfeddyliwr o'r Unol Daleithiau oedd Robert Green Ingersoll (11 Awst 1833 – 21 Gorffennaf 1899). Enillodd yr enw "yr Agnostig Mawr" am iddo siarad yn gyhoeddus am ei sgeptigiaeth grefyddol, arddel athroniaeth ddyneiddiol a rhesymoliaeth wyddonol, a phoblogeiddio uwchfeirniadaeth y Beibl. Roedd yn ddarlithydd hynod o boblogaidd yn niwedd y 19g ac yn enwog ar draws yr Unol Daleithiau am ei rethreg a'i ffraethineb.
Robert G. Ingersoll | |
---|---|
Ganwyd | Robert Green Ingersoll 11 Awst 1833 Dresden |
Bu farw | 21 Gorffennaf 1899 Dobbs Ferry |
Man preswyl | Robert Ingersoll Birthplace |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | cyfreithiwr, gwleidydd, llenor, awdur ysgrifau, areithydd, darlithydd, athronydd |
Swydd | United States Attorney |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol |
Mudiad | Agnosticiaeth |
Tad | John Ingersoll |
Priod | Eva Parker Ingersoll |
Plant | Eva Ingersoll Brown, Maud Ingersoll Probasco |
llofnod | |
Ganwyd yn Dresden, Talaith Efrog Newydd, a chafodd ychydig o addysg ffurfiol. Cafodd ei dderbyn i'r bar yn Illinois ym 1854, ac aeth i drin y gyfraith yn Peoria, Illinois, Dinas Efrog Newydd, a Washington, D.C. Gwasanaethodd yn Rhyfel Cartref America. Ymunodd â'r Blaid Weriniaethol a daeth yn weithredol yn y byd gwleidyddol, er na ymgeisiodd am yr un swydd etholedig. Gwasanaethodd fel Twrnai Cyffredinol Illinois (1867–69) a gweithiodd fel llefarydd y Gweriniaethwyr mewn ymgyrchoedd arlywyddol. Er yr oedd yn Weriniaethwr pybyr, ni chafodd ei apwyntio i'r un benodiad diplomyddol neu swydd y Cabinet oherwydd ei farnau crefyddol.
Cyhoeddwyd ei brif ddarlithoedd ac areithiau yn y cyfrolau Some Mistakes of Moses (1879) ac Why I Am Agnostic (1896). Wedi ei farwolaeth, cyhoeddwyd ei weithiau cyfan mewn 12 cyfrol dan olygyddiaeth Clinton P. Farrell, The Works of Robert G. Ingersoll (1902).[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Robert G. Ingersoll. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Ebrill 2017.