Bardd yn yr iaith Saesneg Canol a mynach o Sais oedd Robert Mannyng a flodeuai yn y cyfnod 1288–1338. Roedd yn hanu o Brunne, a elwir bellach yn Bourne, yn Swydd Lincoln. Yr unig ffynonellau sicr amdano ydy'r rhageiriau a ysgrifennwyd ganddo ar gyfer ei ddwy gerdd: Handlyng Synne (cychwynnwyd 1303) a The Story of England (cyflawnwyd 1338). Aelod o Urdd Gilbert ydoedd.

Robert Mannyng
Ganwyd1275 Edit this on Wikidata
Bu farw1338 Edit this on Wikidata
Galwedigaethhanesydd, ysgrifennwr, bardd, croniclwr Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Yn ôl hanes Mannyng o'i fywyd, ymunodd â Chanoniaid Urdd Gilbert yn Sempringham, Swydd Lincoln, yn 1288. Mae'n honni iddo astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt yr un pryd â Robert de Brus a'i frodyr Thomas ac Alexander. Adeg gyflawni The Story of England, yn 1338, roedd yn byw mewn priordy arall y Gilbertiaid yn Swydd Lincoln.

Mae'n debyg dyma'r un Syr Robert de Brunne, caplan, a enwir yn ysgutor mewn ewyllys yn Lincoln yn 1327.[1]

Barddoniaeth golygu

Handlyng Synne golygu

Traethawd Cristnogol mydryddol yw Handlyng Synne a gychwynnwyd yn 1303. Mae'n seiliedig ar y gerdd ddidactig Eingl-Normaneg Manuel de Pechiez gan Wilham de Waddington. Llinellau wythsill yw mesur y gerdd, a chanddi ryw 12,600 o linellau i gyd.

The Story of England golygu

Mae rhan gyntaf The Story of England, a elwir yn aml yn Mannyng's Chronicle, yn olrhain hanes o'r cymeriad Beiblaidd Noa hyd at farwolaeth Cædwalla, Brenin Wessex yn 689. Mae'r ail ran yn diweddaru hanes Lloegr hyd at farwolaeth y Brenin Edward I yn 1307.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Robert Mannyng. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Medi 2019.