Handlyng Synne
Traethawd Cristnogol mydryddol yn Saesneg Canol yw Handlyng Synne a ysgrifennwyd gan Robert Mannyng, mynach o Swydd Lincoln, yn 1303. Mae'n seiliedig ar y gerdd ddidactig Eingl-Normaneg Manuel de Pechiez gan Wilham de Waddington. Llinellau wythsill yw mesur y gerdd, a chanddi ryw 12,600 o linellau i gyd.
Mae'n ymwneud â phechod ac yn cynnwys trafodaethau o foesoldeb Cristnogol megis y Deg Gorchymyn, y saith pechod marwol, y saith sacrament, halogiad, a phenyd ac elfennau eraill y gyffes. Straeon damhegol sy'n lliwio pob pechod, mewn modd tebyg i Confessio Amantis a gyfansoddwyd gan John Gower yn niwedd y 14g. Mae nifer o'r esiamplau moesol heb eu tynnu o'r Manuel. Y stori enwocaf o'r gerdd, a gynhwysir mewn sawl casgliad o lenyddiaeth Saesneg Canol, ydy "The Dancers of Colbek".[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Margaret Drabble (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1995), t. 438.