Robert Thompson Crawshay
Diwydiannwr a pherchennog Gwaith Haearn Cyfarthfa ger Merthyr Tudful oedd Robert Thompson Crawshay (8 Mawrth 1817 – 10 Mai 1879).
Robert Thompson Crawshay | |
---|---|
Ganwyd | 3 Mawrth 1817 Gwaith Haearn Cyfarthfa |
Bu farw | 10 Mai 1879 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | metelegwr |
Tad | William Crawshay II |
Mam | Isabella Thompson |
Priod | Rose Mary Crawshay |
Plant | William Thomson Crawshay, Rose Harriott Crawshay, Henrietta Louisa Crawshay, Robert Thompson Crawshay |
Ganed ef yng Nghyfartha. Roedd yn fab i William Crawshay II. Pan ymddeolodd William Crawshay i Caversham yn Lloegr yn 1847, trosglwyddodd waith haearn Cyfarthfa i Robert, a'r gweithfeydd haearn eraill i ddau fab arall.
Daeth Robert yn ffigwr dylanwadol dros ben ym mywyd diwydiannol de Cymru, er i anghydfod diwydiannol efeithio ar weithfeydd Cyfarthfa yn y 1870au. Robert oedd yn gyfrifol am sefydlu Band Cyfarthfa. Dywedir ei fod hefyd yn ferchetwr o fri. Cynorthwyodd ef a'i wraig, Rose Mary Crawshay, gyda'r gwaith o godi ysgolion.
Bu farw pan ar ymweliad a Cheltenham. Claddwyd ef ym mynwent y Faenor. Ar ei garreg fedd, ceir yr arysgrif "God forgive me". Cadwyd y busnes ymlaen gan ei feibion fel Messrs. Crawshay Bros. am gyfnod, ond gwerthwyd ef i Guest, Keen, and Nettlefold yn 1902.
Llyfryddiaeth
golygu- Gwyddoniadur Cymru, 2008