Robert Williams (hynafiaethydd)

clerigwr, ysgolhaig Celtig, a hynafiaethydd

Clerigwr a hynafiaethydd o Gonwy oedd Robert Williams (29 Mehefin 181026 Ebrill 1881).[1]

Robert Williams
Ganwyd29 Mehefin 1810 Edit this on Wikidata
Conwy Edit this on Wikidata
Bu farw26 Ebrill 1881 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcrefyddwr, gwerthwr hen greiriau, person dysgedig, hynafiaethydd Edit this on Wikidata
Am bobl eraill o'r un enw gweler Robert Williams (gwahaniaethu).

Bywgraffiad golygu

Ganed Robert Williams yn fab i Robert Williams, ficer Conwy, yn y flwyddyn 1810. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Biwmares ac Ysgol Ramadeg Amwythig cyn mynd yn ei flaen i Goleg Eglwys Crist, Rhydychen lle graddiodd yn MA yn 1832.[1]

Cafodd ei benodi'n ficer Llangadwaladr a Rhydycroesau (ger Croesoswallt) yn fuan ar ôl graddio a bu aros yno am ddeugain mlynedd. Ond roedd ei galon yng Nghymru ac ymroddodd i astudio hynafiaethau, hanes a llên ei wlad. Cyfieithodd cerddi Llyfr Taliesin ar gyfer The Four Ancient Books of Wales gan William Forbes Skene; er yn wallus roedd yn ymgais clodwiw am ei gyfnod. Gweithiodd gyda G. Hartwell Jones i olygu Selections from the Hengwrt Manuscripts. Yn 1865 cyhoeddodd eiriadur Cernyweg-Saesneg, un o'r cyntaf o'i fath. Symudodd i bentref Craven Arms ger Llwydlo yn 1879 a bu farw yno yn 1881.[1]

Hynafiaethydd golygu

Mae ei gyhoeddiadau pwysicaf yn cynnwys y Biography of Eminent Welshmen (1836), sydd efallai'r bywgraffiadur gorau yng Nghymru cyn cyhoeddi Y Bwygraffiadur Cymreig hyd 1940 gan y Cymmrodorion. Ymddiddorai'n fawr yn hanes ei fro enedigol yn ogystal ac yn 1835 cyhoeddoedd ei gyfrol werthfawr The History and Antiquities of the Town of Aberconwy and its Neighbourhood, sy'n rhoi hanes ardal Conwy a'r Creuddyn.[1]

Llyfryddiaeth golygu

  • The History and Antiquities of the Town of Aberconwy and its Neighbourhood (Dinbych, 1835)
  • Biography of Eminent Welshmen neu Eminent Welshmen (1836)

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 E. D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Lerpwl, 1947).

Dolen allanol golygu