Creuddyn (Rhos)
Cwmwd canoloesol a bro ar arfordir gogledd Cymru yw'r Creuddyn. Gydag Uwch Dulas ac Is Dulas roedd yn un o dri chwmwd cantref Rhos. Yn yr Oesoedd Canol Cynnar bu'r Creuddyn yn ganolfan wleidyddol bwysig ac yn gartref i lys Maelgwn Gwynedd. Mae'r enw yn parhau yn enw'r ysgol gyfrwng Gymraeg leol, Ysgol y Creuddyn. Heddiw mae'r fro yn cynnwys tref Llandudno, Degannwy a Bae Penrhyn.
Math | ardal, cwmwd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | y Berfeddwlad |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Yn ffinio gyda | Uwch Dulas, Is Dulas |
- Am y cwmwd o'r un enw yng Ngheredigion, gweler Creuddyn (Ceredigion). Gweler hefyd Creuddyn (gwahaniaethu).
Daearyddiaeth
golyguGorwedd y Creuddyn ar orynynys eang o dir rhwng Bae Conwy ac afon Conwy i'r gorllewin a dyffryn Afon Ganol (ger Mochdre) ac arfordir y gogledd-ddwyrain i'r de a'r dwyrain. Ac eithrio yn y de, lle mae'n ffinio ag Uwch Dulas, fe'i amgylchynir yn gyfangwbl gan y môr. Yn ei ben gogledd-orllewinol ceir penrhyn calchfaen Pen y Gogarth ac yn y gogledd-ddwyrain ceir penrhyn Rhiwledyn. Rhwng y ddau benrhyn ceir tir gwastad lle saif tref Llandudno heddiw. Ar lan afon Conwy ceir Castell Degannwy, safle bryngaer a chastell canoloesol.
Hanes a thraddodiadau
golyguYn ogystal â llys Maelgwn yn Eglwys Rhos (Llanrhos) a chastell Degannwy, ceir sawl safle hanesyddol yn y Creuddyn. Ar Ben y Gogarth ceir cloddfa copr cynhanesyddol a fu ymhlith y pwysicaf yng ngogledd-orllewin Ewrop. Ar y Gogarth hefyd ceir nifer o olion yr hen oesoedd, fel cromlech Llety'r Filiast. Bu'n ganolfan bwysig yn hanes cynnar Cristnogaeth yng Nghymru yn ogystal, gydag Eglwys Tudno ar y Gogarth, Eglwys Rhos yn y canol rhwng Degannwy a Rhiwledyn, ac eglwys Llangystennin i'r dwyrain.
Cysylltir y fro ag ail ran Hanes Taliesin, y chwedl sy'n adrodd hanes chwedlonol Taliesin a'i noddwr Elffin ap Gwyddno. Carcharwyd Elffin yng Nghastell Degannwy, yn ôl y chwedl, ond cafodd ei ryddhau ar ôl i Daliesin drechu beirdd llys Maelgwn mewn ymryson barddol enwog. Man arall yn y Creuddyn a gysylltir â'r chwedl yw Morfa Rhianedd (Pen Morfa heddiw), wrth droed y Gogarth; daeth rhyw anghenfil ofnadwy, sy'n cynrhychioli'r Pla Melyn, oddi yno i ddwyn dinistr ar y brenin a guddiasai yn Eglwys Rhos.
Daeth rhai o'r "trefi" canoloesol yn ganolfannau pwysig yn yr Oesoedd Canol Diweddar, yn eu plith Bodysgallen a Gloddaeth. Roedd rhan o Ben y Gogarth yn perthyn i esgobaeth Bangor ac yno y codwyd "Abaty"'r Gogarth, ond math o blasdy eglwysig oedd yn hytrach nag abaty.
Roedd y cwmwd yn rhan o deyrnas Gwynedd yn y Berfeddwlad neu Wynedd Is Conwy. Chwareai rhan bwysig yn hanes y cyfnod yn y brwydro rhwng tywysogion Gwynedd a'r Normaniaid a'r Saeson. Pan luniwyd Sir Gaernarfon yn 1284 daeth yn rhan o'r sir newydd, dros yr afon o weddill y sir. Heddiw, ar ôl cyfnod fel rhan o'r hen Wynedd, mae'n gorwedd ym mwrdeistref sirol Conwy ac wedi datblygu'n ardal breswyl a gwyliau glan môr.
Trefi canoloesol
golygu- Cyngreawdr (yr hen enw am Ben y Gogarth oedd Cyngreawdr Fynydd)
- Gogarth
- Yr Wyddfid (y rhan o dref bresennol Llandudno sydd wrth droed y Gogarth)
- Penlasog, ger Degannwy
- Rhiwledyn
- Penrhyn
- Bodafon (safle plasty)
- Bodysgallen (safle plasty)
- Gloddaeth (safle plasty)
- Llanwyddan
- Trefwarth (ger Cyffordd Llandudno)
Plwyfi
golyguGweler hefyd
golyguFfynonellau a darllen pellach
golygu- Atlas of Caernarvonshire (Caernarfon, 1977)
- E. D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Lerpwl: Gwasg y Brython, 1947)