Roberto Bolaño
Nofelydd, awdur straeon byrion, bardd a thraethodydd o Tsilead oedd Roberto Bolaño Ávalos[1] (28 Ebrill 1953 – 15 Gorffennaf 2003) (Spanish: ynganiad: [[roˈβerto βoˈlaɲo ˈaβalos]] audio (help·info)). Yn 1991, enillodd Bolaño Wobr Rómulo Gallegos am ei nofel Los detectives salvajes ac yn 2008 fe'i gwobrwywyd, wedi ei farwolaeth, â Gwobr National Book Critics Circle am ei nofel 2666, a ddisgrifiwyd gan aelod o'r pwyllgor fel "gwaith mor gyfoethog ac mor syfrdanol y bydd yn sicr o ddenu darllenwyr ac ysgolheigion am oesoedd".[2] Fe'i galwyd gan The New York Times yn "llais mwyaf arwyddocaol America Ladin ei genhedlaeth".[3]
Roberto Bolaño | |
---|---|
Ganwyd | 28 Ebrill 1953 ![]() Santiago de Chile ![]() |
Bu farw | 15 Gorffennaf 2003 ![]() Barcelona ![]() |
Dinasyddiaeth | Tsile ![]() |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, bardd, beirniad llenyddol ![]() |
Adnabyddus am | 2666, The Savage Detectives ![]() |
Arddull | rhyddiaith, barddoniaeth ![]() |
Prif ddylanwad | Jorge Luis Borges ![]() |
Mudiad | Infrarrealismo ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Rómulo Gallegos, Premio Herralde, Gwobr Genedlaethol Cylch y Beirniaid Llyfrau, Alcalá City Awards ![]() |
Cyfeiriadau Golygu
- ↑ Yn ôl arferion enwi Sbaeneg, Bolaño yw ei gyfenw cyntaf (tadol), ac Ávalos yw ei ail gyfenw (mamol)
- ↑ http://www.theguardian.com/books/2009/mar/13/bolano-2666-nbcc-award. Adalwyd 20/12/2011
- ↑ http://www.nytimes.com/2012/12/20/books/woes-of-the-true-policeman-by-roberto-bolano.html?_r=1&.