Romani (iaith)

iaith

Iaith y Roma a'r Sinti (Sipsiwn) yw Romani. Amcangyfrifir bod tua 4.5 miliwn o bobl yn siarad Romani. Mae'n iaith Indo-Ariaidd yn y teulu Indo-Ewropeaidd sy'n ymrannu'n sawl tafodiaith.

Yn ôl cyfrifiad Bwlgaria 2001, mae 327,882 o bobl yn siarad Romani fel mamiaith ym Mwlgaria (4.1% o'r boblogaeth), yn enwedig yn rhanbarthau Montana (yng ngogledd-orllewin Bwlgaria) a Sliven (yn y canol).

Eginyn erthygl sydd uchod am y Roma. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato