Sipsi
(Ailgyfeiriad o Sipsiwn)
Defnyddir y term Sipsi (lluosog Sipsiwn) am nifer o grwpiau ethnig, yn bennaf y Romani.
- Abram Wood (c. 1699 - 12 Tachwedd 1799), sefydlydd y Sipsiwn Cymreig
- Roma yng nghanolbarth a dwyrain Ewrop.
- Kalderash, y mwyaf niferus o'r bobloedd Romani, yng nghanolbarth a dwyrain Ewrop.
- Gitanos, Sbaen, Portiwgal a de Ffrainc
- Lyuli, Kyrgyzstan, Canolbarth Asia
- Teithwyr Norwyaidd a Swedaidd, pobl Romani
- Romnichal, Prydain
- Sinti, Yr Almaen, Awstria a'r Eidal
- Garachi, Aserbaijan
- Banjara, India
- Lambani, India
Eraill
golyguGweler hefyd
golyguHanesion personol
golyguCofnododd y diweddar Mrs Elisabeth Roberts ei chof am y sipsiwn fel rhan o’i Hatgofion Mebyd sydd i’w gweld yn eu cyfanrwydd ar dudalen Llanfaglan:
- ”Amser difyr fyddai pan ddoi y Gipsies i Parc Plwy. Byddai yno ryw hanner dwsin neu fwy o garafans yno, byddai rhai ohonynt yn neillteuol o lân, sef teulu y Boswells, ac un arall a dim ond y fam a’i mab Tom hefo hi.
- Fe fyddan ni y plant yn cael mynd yno i’w gweld yn gwneud pegiau a matiau, a chael tê hefo nhw yn y garafan. Cofiaf yn dda am fabi bach un ohonynt yn wael iawn, a’i fam yn dod a fo i Glan Llyn i’r doctor gael ei weld. Byddai yno rai reit rough hefyd, a chwffio garw yn mynd ymlaen, amser hynny wardio yn yr ardd i gweld nhw byddan ni.
- Fe fyddai mwy o lawer iawn o rai wedi meddwi yr amser hynny na heddiw. Peth cyffredin fyddai gweld aml un yn cysgu dros nôs ar ochr y ffordd“.