Romulus a Remus

Yn ôl y chwedl, sefydlwyr dinas Rhufain a thrwy estyniad yr Ymerodraeth Rufeinig oedd Romulus a Remus. Gefeilliaid oeddynt, meibion Mars a Rhea Silvia, merch chwedlonol Numitor, brenin Alba Longa. Cafodd yr efeilliaid ifainc eu taflu i Afon Tiber gan Amulius, oedd wedi diorseddu Numitor. Cawsant eu golchi i'r lan a'u magu gan fleiddes. Yn ddiweddarach fe'u darganfuwyd gan fugail a'u mabwysiadu ganddo.

Walter Pompe, De Romeinse wolvin met Romulus en Remus- La louve romaine avec Romulus et Remus, KBS-FRB.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynoltwins in mythology, grŵp o gymeriadau chwedlonol Edit this on Wikidata
Yn cynnwysRemus, Romulus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn nes ymlaen sefydlasant ddinas Rhufain ar y llecyn lle cawsant eu golchi i'r lan. Cododd Romulus y ddinas ar allt Palatein. Y dyddiad traddodiadol am ei sefydlu ganddo yn y calendr Rhufeinig oedd 21 Ebrill 753 CC. Romulus oedd brenin cyntaf Rhufain.

Romulus a Remus yn cael eu sugno gan y fleiddes