Ronald Cass
Roedd Ronald Cass (21 Ebrill 1923 – 2 Mehefin 2006), adnabyddir hefyd fel Ronnie Cass, yn sgriptiwr, cyfansoddwr, dramodydd, nofelydd a chyfarwyddwr cerdd o Gymru. Cyd-ysgrifennodd y sgript ar gyfer ffilmiau Cliff Richard, The Young Ones (1961) and Summer Holiday (1963).
Ronald Cass | |
---|---|
Ganwyd | 21 Ebrill 1923 Llanelli |
Bu farw | 2 Mehefin 2006 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cyfansoddwr caneuon, cyfarwyddwr cerdd, sgriptiwr |
Adnabyddus am | Summer Holiday, The Young Ones |
Bywgraffiad
golyguGanwyd Cass yn Llanelli, Cymru, yr ail o bum mab Saul a Rachel Cass. Bu un o'i frodyr, Leslie Cass, hefyd yn gweithio yn yr un maes â Ronnie, a chyfansoddodd ei ddrama ei hun o'r enw The Story of Ruth, a berfformiwyd yn Sheffield. Roedd ei deulu yn Iddewig, ac roedd yn aelod o'r New London Synagogue.[1]
Dilynodd Cass yrfa fel athro mathemateg i ddechrau ond ym 1951 dechreuodd gael sylw am ei gyfraniadau i nifer o sioeau cerdd a gynhyrchwyd yng nghlwb Theatr Irving, Caerlŷr. Roedd Cass yn astudio economeg ym Mhrifysgol Aberystwyth pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd ac ymunodd â'r RAF. Pan gafodd ef a'i sgwadron eu postio i Burma, mynnodd eu bod yn mynd â phiano gyda hwy fel y gallai barhau i ddiddanu'r milwyr.[2]
Dychwelodd Cass i Gymru wedi'r rhyfel ym 1945, ond teithiodd i Lundain yn 1949 i chwilio am gyfleoedd cerddorol. Ni fu'n rhaid iddo chwilio llawer cyn cael ei gyflogi fel cyfarwyddwr cerddorol yng nghlwb nos Ciro gan Cecil Landeau, ac yno y cyfarfu â Peter Myers, a oedd yn paratoi rifiw newydd. Fe wnaethant lunio sioe-ar-ôl-sioe o'r enw 10:15, a gynhaliwyd yn Theatr Irving, ac a fu'n llwyddiannus iawn.[2]
Yn 1952, mynychodd Cass sioe a berfformiwyd gan fyfyrwyr Ysgol Economeg Llundain , a creodd un ohonynt, Ron Moody, argraff fawr arno. Penderfynodd ef a Myers adael iddo dechrau arni fel actor yn y sioe Intimacy at 8, sef rifiw a gyflwynwyd yn y New Lindsay Theatre. Ail-enwyd y sioe hon yn High Spirits pan gafodd ei hail-agor yn Theatr Hippodrome ym 1953. Dywedodd Cass mai High Spirits oedd ei hoff sioe erioed. Ymysg y cast roedd actores o'r enw Valerie Carton, a briododd ym 1955.
Aeth Cass ymlaen i ysgrifennu dramâu teledu, cantatas, a sioeau cabaret ar gyfer llongau mordeithio. Cyfansoddodd y sgôr i addasiad y ffilm Never Mind the Quality Feel the Width ym 1973, ac ymunodd â'i hen gyfaill, Warren Mitchell, i ysgrifennu The Thoughts of Chairman Alf ym 1975, a deithiodd ac a berfformiwyd ar draws y wlad am yr ugain mlynedd nesaf. Gweithiodd Cass gyda ffrind arall, Tom Jones , ar fwy na 70 o sioeau teledu a sioeau cerdd. Yn y 1990au bu'n gweithredu fel Cydymaith Rhaglen ar raglenni Highway ar ITV gyda Syr Harry Secombe.
Ar ôl ymuno â'r theatr o fyd y cabaret, trodd Cass yn ól at gabaret unwaith eto yn 1979, gan gyd-ysgrifennu Blondes and Bombshells. Ysgrifennodd ddwy nofel, True Blue a Fringe Benefits, a llyfr o hiwmor theatraidd o'r enw A Funny Thing Happened or an Anthology of Pro's.[3]
Bywyd personol
golyguPriododd Ronald Cass yr actores Valerie Carton ym 1955, a cawsant dri o blant, Debbie, Stephen a Nicola, a phedwar o wyrion, Joseph, Rachel, Leila a Benji. Bu farw ym mis Mehefin 2006, yn 83 oed.
Credydau
golygu- Gweithiau theatr
- Deja Revue, Move Along Sideways (1975)
- The Thoughts of Chairman Alf (1977)
- 10:15 Revue (1951)
- The Irving Revue (1952)
- Jack and the Beanstalk (composition contributor) (1968)
- Just Lately, Intimacy at Eight (1952)
- High Spirits (1953)
- Intimacy at 8:30 (1954)
- For Amusement Only (1956)
- Harmony Close (1957)
- For Adults Only (1958)
- The Lord Chamberlain Regrets (1961)
- Enrico (1963)
- Deja Revue (1975)
- Blondes and Bombshells (1979)
- Sgôr ffilm
- The Young Ones (1961)
- Summer Holiday] (1963)
- Never Mind the Quality Feel the Width (1973)
- Dramau teledu
- Affair On Demand
- The Other Side of London
- Ysgrifennu
- A Funny Thing Happened, or An Anthology of Pro's
- The Highway Companion
- True Blue
- Fringe Benefits [4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ William D. Rubinstein, Michael Jolles, Hilary L. Rubinstein, Geiriadur Palgrave o Hanes Eingl-Iddewig , Palgrave Macmillan (2011), t. 145
- ↑ 2.0 2.1 Vosburgh, Dick (1 August 2006). "Ronnie Cass: Unstoppable composer". The Independent. Cyrchwyd 22 April 2018.
- ↑ Shorter, Eric (28 July 2006). "Ronald Cass: Composer of West End revues and Cliff Richard film scores". The Guardian. Cyrchwyd 22 April 2018.
- ↑ Carter, Jim. "Ronald Cass Biography". Film Reference.com. Cyrchwyd 10 Mawrth 2008.