Rosa Luxemburg
Roedd Rosa Luxemburg (Pwyleg: Róża Luksemburg) (5 Mawrth 1871 – 15 Ionawr 1919) yn feddyliwr Marcsaidd a chwyldroadwraig Iddewig, yn enedigol o Wlad Pwyl.[1]
Rosa Luxemburg | |
---|---|
![]() | |
Ynganiad |
De-Rosa Luxemburg.ogg ![]() |
Ffugenw |
R. Kruszynska ![]() |
Ganwyd |
Rosalia Luxenburg ![]() 5 Mawrth 1871 ![]() Zamość ![]() |
Bu farw |
15 Ionawr 1919 ![]() Achos: anaf balistig ![]() Berlin ![]() |
Dinasyddiaeth |
Yr Almaen, Ymerodraeth Rwsia ![]() |
Addysg |
Doethuriaeth Nauk mewn Gwyddoniaeth Juridicaidd ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
gwleidydd, athronydd, chwyldroadwr, cymdeithasegydd, economegydd, newyddiadurwr, golygydd, damcaniaethwr gwleidyddol ![]() |
Adnabyddus am |
The Accumulation of Capital, Social Reform or Revolution ![]() |
Plaid Wleidyddol |
Plaid Sosialaidd, Democrataidd yr Almaen, Plaid Gomiwnyddol yr Almaen, Plaid Sosialaidd Ddemocrataidd Annibynnol yr Almaen, Spartacus League, Social Democracy of the Kingdom of Poland and Lithuania ![]() |
Priod |
Gustav Lübeck, Julian Marchlewski ![]() |
Partner |
Leo Jogiches ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Ganed hi yn Zamość ger Lublin, Gwlad Pwyl, yn ferch i farsiandïwr coed. Cymerodd ran mewn mudiadau adain-chwith, a bu raid iddi ffoi i'r Swistir yn 1889, lle astudiodd ym Mhrifysgol Zürich. Yn 1898, priododd Gustav Lübeck, a symudodd i Berlin. Bu'n flaenllaw mewn nifer o bleidiau ar y chwith yn yr Almaen, a sefydlodd gylchgrawn o'r enw Die Rote Fahne (Y Faner Goch). Gyda Karl Liebknecht, sefydlodd y Spartakusbund, grŵp a ddaeth yn Blaid Gomiwnyddol yr Almaen yn nes ymlaen. Ym mis Ionawr 1919 cymerodd ran mewn gwrthryfel aflwyddianus yn Berlin. Cymerwyd Luxembourg yn garcharor a'i saethu; taflwyd ei chorff i Gamlas Landwehr, Berlin.
Cerflun gan Rolf Biebl yn Franz-Mehring-Platz, Friedrichshain, Berlin.