Rosa May Billinghurst

Ffeminist o Loegr oedd Rosa Mai Billinghurst (31 Mai 1875 - 29 Gorffennaf 1953) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel gwleidydd, ymgyrchydd dros hawliau merched a swffragét. Ei llysenw oedd "cripple suffragette", gan ei bod wedi dioddef o polio ac yn teithio o le i le ar feic tair olwyn.[1]

Rosa May Billinghurst
Ganwyd31 Mai 1875 Edit this on Wikidata
Lewisham Edit this on Wikidata
Bu farw29 Gorffennaf 1953 Edit this on Wikidata
Twickenham Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethgwleidydd, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, swffragét Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Lewisham ar 31 Mai 1875 yr ail o naw o blant i Henry Farncombe Billinghurst a Rosa Ann (Brinsmead) Billinghurst. Daeth ei mam o deulu a oedd yn cynhyrchu pianos ac roedd ei thad yn fanciwr.[2][1][3]

Fel plentyn goroesodd polio ac ni allai gerdded. Roedd hi'n defnyddio naill ai baglau neu feic dair olwyn wedi'i addasu.[3] Daeth yn weithgar mewn gwaith cymdeithasol mewn tloty yn Greenwich, Llundain, gan ddysgu mewn Ysgol Sul ac ymuno â grŵp Dirwest.[4]

Gwleidyddiaeth golygu

Roedd yn aelod o Gymdeithas Ryddfrydol y Menywod ac yn ddiweddarach yn 1907 yn aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod neu'r Women's Social and Political Union (WSPU). Er gwaethaf ei hanabledd, cymerodd ran yng ngorymdaith yr WSPU i'r Royal Albert Hall ym mis Mehefin 1908. Helpodd Billinghurst i drefnu ymateb UGCG yn is-etholiad Haggerston ym mis Gorffennaf 1908.[4]

 
Billinghurst yn protestio

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, sefydlodd gangen Greenwich o'r WSPU. Fel ysgrifennydd cyntaf y gangen, cymerodd ran ym mhrotestiadau 'Dydd Gwener Du'. Gallai fynychu oherwydd iddi ddefnyddio beic tair olwyn wedi'i addasu. Cafodd ei harestio ar ôl i'r heddlu ddymchwel ei beic, gan ei thaflyd i'r llawr. Gwyddai Billinghurst ei bod yn ddiymadferth pan ddigwyddodd hyn ond ond daeth y digwyddiad a chyhoeddusrwydd i'w hachos. Roedd yr heddlu wedi manteisio ar ei hanabledd gan ei gadael mewn stryd-ochr ar ôl gadael ei theiars i lawr a thynu'r falfiau.[3]

Treuliodd Billinghurst gyfnod yng Ngharchar Holloway am dorri ffenestr ar Stryd Henrietta pan gafodd ei dedfrydu i fis o lafur caled, ond roedd awdurdodau'r carchar wedi ei drysu gan y ddedfryd ac ni roddodd unrhyw waith ychwanegol iddi. Daeth yn ffrindiau gyda nifer o garcharorion eraill gan gynnwys Dr Alice Stewart Ker; smlyglodd lythyr i ferch Ker pan gafodd ei rhyddhau. [5]

Ar 8 Ionawr 1913, cafodd ei phrofi yn yr Old Bailey a'i dedfrydu i wyth mis yng Ngharchar Holloway am ddifrodi llythyrau mewn blwch postio, ac aeth ar streic newyn, a gorfodwyd hi i fwyta, ynghyd â swffragetiaid eraill. Daeth mor sâl nes iddi gael ei rhyddhau bythefnos ar ôl hyn.[4]

Anrhydeddau golygu


Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Hayley Trueman, 'Billinghurst, (Rosa) Mai (1875–1953)', Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004 adalwyd 9 Hydref 2017
  2. Dyddiad marw: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
  3. 3.0 3.1 3.2 "May Billinghurst". Spartacus Educational (yn Saesneg). Cyrchwyd 2017-10-08.
  4. 4.0 4.1 4.2 "Rosa Mai Billinghurst | The Suffragettes". www.thesuffragettes.org. Cyrchwyd 2017-10-08.
  5. Aelodaeth: http://spartacus-educational.com/Wwspu.htm.