Rosyth

tref yn Fife, yr Alban

Tref yn awdurdod unedol Fife, yr Alban, ydy Rosyth[1] (Gaeleg yr Alban: Ros Fhìobh).[2] Saif ar arfordir wrth aber Moryd Forth, tua 3 milltir (5 km) i'r de o ganol tref Dunfermline. Sefydlwyd y dref fel gardd-ddinas ym 1909, ac fe'i hadeiladwyd i ffurfio porthladd ar gyfer Dunfermline. Mae'n ffinio â thref Inverkeithing, wedi'i gwahanu oddi wrthi gan draffordd yr M90.

Rosyth
Mathtref Edit this on Wikidata
Poblogaeth13,780 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirFife Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau56.03388°N 3.43226°W Edit this on Wikidata
Cod SYGS19000584 Edit this on Wikidata
Cod OSNT108831 Edit this on Wikidata
Map

Mae'r ardal yn fwyaf adnabyddus am ei iard longau fawr, a arferai gael ei gweithredu gan y Llynges Frenhinol, ond a gafodd ei phreifateiddio ym 1987.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Rosyth boblogaeth o 13,580.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 9 Ebrill 2022
  2. Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba Archifwyd 2022-05-28 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 9 Ebrill 2022
  3. City Population; adalwyd 9 Ebrill 2022