Rowland Williams (clerigwr)

clerigwr

Clerigwr o Fallwyd oedd Rowland Williams (bedyddiwyd 27 Mawrth 177928 Rhagfyr 1854). Ei rieni oedd Catherine Williams a Richard Williams. Priododd Jane Wynne Williams. Roedd ganddo ddau o blant - Emily Pryce a Rowland Williams.

Rowland Williams
Ganwyd27 Mawrth 1779 Edit this on Wikidata
Mallwyd Edit this on Wikidata
Bu farw28 Rhagfyr 1854 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethclerig Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Cafodd Rowland Williams ei addysg mewn ysgol a gynhelid yn eglwys Mallwyd, Wedyn yn Metws-yn-Rhos gyda Peter Williams, ficer y plwyf, ac yna yn ysgol Rhuthun. Ymaelododd yng Ngholeg yr Iesu, Prifysgol Rhydychen ar 24 Mai 1798, a graddio gyda B.A. yn 1802 ac M.A. yn 1805.[1] Priododd Jane Wynne Jones o Dre-iorwerth, ger Bodedern yn sir Fôn, a bu iddynt dri mab a phum merch. Un o'i feibion oedd Rowland Williams (1817 - 1870).

Ffynonellau golygu

  • A. O. Evans, A Chapter in the History of the Welsh Book of Common Prayer; or, the letters which were written preparatory to the revised edition of 1841. Annotated, with biographical sketches (Bangor 1922);
  • H. B. Thomas, A History of the Diocese of St. Asaph;
  • Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru (1870);
  • R. Williams, Montgomeryshire Worthies (1894)
  • Foster, Alumni Oxonienses.

Cyfeiriadau golygu

  1. "WILLIAMS, ROWLAND (1779 - 1854), clerigwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-01-22.